Opera Cenedlaethol Cymru yn lansio rhaglen Ystafell Foeler sy’n torri tir newydd gyda’r Cynhyrchydd newydd Jack Furness
3 Awst 2026Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi lansiad ei rhaglen Ystafell Foeler arloesol wrth i Jack Furness gael ei benodi’n Gynhyrchydd cyntaf iddi.
Daw’r Ystafell Foeler yr unig raglen ymchwil a datblygu opera yn y DU sydd wedi’i gwreiddio mewn cwmni opera cenedlaethol - gan ddarparu amser ac adnodau i artistiaid gydweithio a meithrin y genhedlaeth nesaf o opera.
Mae’n bosibl oherwydd cefnogaeth hael gan Sefydliad Garfield Weston - y sefydliad cyntaf i fuddsoddi yn y rhaglen newydd, uchelgeisiol hon a’r partner cyntaf o’r nifer helaeth y mae WNO yn gobeithio y bydd yn cefnogi ei dyfodol Hafan - Sefydliad Garfield Weston.
Yn syth o gyfarwyddo The Flying Dutchman ar gyfer ein tymor y gwanwyn 25/26, mae Jack Furness yn ymuno ag WNO ddydd Llun 17 Awst fel Cynhyrchydd yr Ystafell Foeler. Mae Jack, sy’n gynhyrchydd a chyfarwyddwr arobryn o Gymru, yn un o gynhyrchwyr operâu cyfoes blaenllaw'r DU ac mae clod rhagorol iddo am ddatblygu gwaith newydd, beiddgar a chefnogi artistiaid sy’n dod i’r amlwg. Mae’n byw yng Nghaerdydd, ac ef oedd sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig Opera Shadwell ac mae wedi cyfarwyddo cynyrchiadau i gwmnïau megis Irish National Opera, Scottish Opera a Garsington Opera.

Dywedodd Jack: “Rwyf yn edrych ymlaen yn arw at ymuno ag WNO - y cwmni a sefydlodd fy nghariad at opera. Mae opera newydd ac arbrofi wedi bod yn agweddau helaeth ar fy ngyrfa, ac fel Cynhyrchydd yr Ystafell Foeler mae gennyf gyfle unigryw i helpu i gyflymu opera newydd fel ffordd hanfodol o adrodd straeon yng Nghymru a thu hwnt.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag artistiaid ledled Cymru i’w cysylltu â’r amser, y mannau a’r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i ddatblygu eu lleisiau operatig.”
Yn 2025, dechreuodd WNO bennod newydd dan arweinyddiaeth y Cyd-gyfarwyddwyr Cyffredinol a’r Prif Weithredwyr Adele Thomas a Sarah Crabtree. Eu huchelgais yw meithrin cwmni sy’n rhoi llwyfan i operâu o’r radd flaenaf ar raddfa fawr a hynny wrth ysgogi arbrofi, croesawu diwylliant Cymru a’r Gymraeg, cryfhau cyfleoedd i bobl ifanc a hyrwyddo artistiaid o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae’r Ystafell Foeler yn ganolog i’r weledigaeth honno.
“Mae datblygu opera newydd yn gostus ac yn drwm ar adnoddau, sy’n ei gwneud yn anodd i artistiaid a chwmnïau arbrofi â’r gelfyddyd neu brofi syniadau uchelgeisiol”, dywedodd Cynhyrchydd Gweithredol WNO, Jo Walsh.
“Mae’r Ystafell Foeler wedi’i chreu i chwalu rhai o’r rhwystrau hynny drwy ddarparu man sy’n gwneud arbenigedd blaenllaw WNO ar agweddau cynhyrchu, technegol, ac artistig ar gael. Drwy’r rhaglen newydd hon, rydym eisiau newid pwy sy’n creu opera a pha straeon sy’n cael eu hadrodd.
“Bydd yr Ystafell Foeler yn lle i brofi syniadau newydd, yn lle i artistiaid wthio ffiniau eu hymarfer a’r gelfyddyd, yn lle i arbrofi ar draws disgyblaethau ac yn lle i ddatblygu’r canon opera.
Dywedodd Cyd-gyfarwyddwyr Cyffredinol a Phrif Weithredwyr WNO, Adele Thomas a Sarah Crabtree: “Nid yw opera yn gelfyddyd sefydlog, dinewid, mae wedi bod yn destun esblygu, arloesi ac arbrofi cyson ers iddi ei chreu yn y 17eg ganrif a bydd yn parhau i esblygu mewn ffyrdd na allwn hyn yn oed feddwl amdanyn nhw ar hyn o bryd.
“Roedd cerddorfeydd a chantorion ar gael i gyfansoddwyr fel Verdi, Handel a Puccini yn rheolaidd, ond nid yw’r rhain bellach ar gael i gyfansoddwyr yr 21ain ganrif. Bydd yr Ystafell Foeler yn gwneud hynny’n union - creu man mawr ei angen i artistiaid chwarae, arbrofi a pherffeithio eu hymarfer - i gymryd risgiau a rhoi cynnig ar bethau nad oes neb wedi mentro eu gwneud o’r blaen.
“Mae’n bleser mawr gennym weithio gyda Jack Furness eto a hynny mor fuan ar ôl iddo gyfarwyddo The Flying Dutchman, gan gynnwys sioeau llawn dop yn ei filltir sgwâr, sef Caerdydd. Mae Jack yn artist sy’n llawn uchelgais, chwilfrydedd a natur agored. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ef i lywio’r Ystafell Foeler a helpu i ddiffinio dyfodol opera.
“Yn ogystal, hoffem estyn diolch o galon i Sefydliad Garfield Weston am ei gefnogaeth ddiguro o ran gwneud y rhaglen Ystafell Foeler yn bosibl. Mae’n beth prin a hyfryd dod o hyd i gefnogwyr blaenllaw fel hyn, sy’n deall pwysigrwydd buddsoddi yn nyfodol y gelfyddyd.”