Newyddion

Pum Cwestiwn mewn Pum Munud gyda Justina Gringytė

12 Chwefror 2026

Y penwythnos hwn, bydd Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru’n perfformio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gydag un o ffefrynnau’r gynulleidfa, Justina Gringytė. Cawsom sgwrs gyda Justina cyn y cyngerdd i ofyn iddi beth sy’n ei hysbrydoli a faint mae hi’n edrych ymlaen at berfformio yng Nghaerdydd unwaith eto.

C: Justina, o ble ddaeth eich angerdd dros opera a cherddoriaeth glasurol? 

 A: Rwy’n credu mai geneteg yw’r ateb. Daw’r canu gan fy nhad, ac mae’r actio wedi’i ymwreiddio ynof fi gan fy mam. Ers pan oeddwn i’n ifanc iawn, roeddwn i’n dyheu am fod ar y llwyfan - i ganu’r piano, canu, ac roeddwn i’n arbennig o hoff o adrodd barddoniaeth. Er fy mod i’n 16 oed pan welais fy mherfformiad opera byw cyntaf, roeddwn i’n gwybod yn reddfol bod canu clasurol ac actio theatraidd yn gallu cydweithio’n dda iawn, ers pan oeddwn tua thair blwydd oed.

C: Beth ydych chi’n ei fwynhau am fod yn berfformiwr? 

A: Mae bod yn berfformiwr yn gofyn am ddealltwriaeth ddofn nad yw eich gwaith byth yn gorffen, nid oes byth modd i chi gyflawni perffeithrwydd, ac mae’n rhaid i chi allu derbyn hynny. Mae’n rhaid i chi wybod bod angen i chi weithio arnoch chi eich hun drwy’r adeg, gan obeithio bod pob dydd yn rhoi cyfle i chi wella. Yna, gan gadw hyn mewn cof wrth gamu ar y llwyfan, mae’n rhaid i chi anghofio am eich ‘amherffeithrwydd’, a gadael i’ch greddf eich tywys trwy gydol y perfformiad. Ac er bod sylw pawb arnoch chi, mae cyn lleied o egoistiaeth yn perthyn i’r peth, mae’n anodd disgrifio’r teimlad.

Justina yn ein cynhyrchiad 2018 o La Forza del destino. 

C: Beth yw eich eiliad o anghrediniaeth? 

A: Mae fy eiliad o anghrediniaeth yn digwydd i mi’n aml. Rydw i wir yn gwerthfawrogi fy mywyd a phopeth sy’n dod yn ei sgil. Felly, pan fydda i’n mynd ar lwyfan yn dilyn cyfnod hir o salwch neu heriau eraill mewn bywyd – rwy’n pinsio fy hun. Mae rhannu llwyfan gyda cherddorion, artistiaid a phobl wych yn eiliad o anghrediniaeth, bob amser.

C: Ydych chi’n edrych ymlaen at fod yn ôl yng Nghymru a pherfformio gydag WNO? 

A: Rydw i’n edrych ymlaen yn arw at ddychwelyd i Gymru a pherfformio gyda Cherddorfa wych WNO. Mae gan Gymru le arbennig yn fy nghalon a’m hatgofion.

C: Pe baech chi ddim yn ganwr opera, beth fyddech chi? 

 A: Pe bawn i ddim yn ganwr opera, rwy’n siŵr mai meddyg fydden i.

Bydd Justina Gringytė yn perfformio gyda’r arweinydd Christopher Ward a Cherddorfa WNO yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, 14 – 15 Chwefror.