Yn ystod Tymor y Gwanwyn eleni, mae opera Britten yn dychwelyd i’n llwyfannau gyda’n cynhyrchiad o Peter Grimes. Fel arfer, Eidalwyr, Awstriaid ac Almaenwyr sydd fwyaf amlwg ar y llwyfannau opera, ac felly mae gwaith Britten yn anarferol, ond nid ef yw’r unig gyfansoddwr opera gwych o Brydain Fawr...
Purcell
Mae Henry Purcell yn aml yn cael ei ystyried fel un o’r cyfansoddwyr opera gorau erioed o Loegr. Wedi ei eni yn Llundain yn 1659, gallai gael ei ystyried yn rhyfeddod, wedi iddo gychwyn cyfansoddi yn naw oed ac ymysg ei waith eraill, cyfansoddodd saith o operâu yn ystod ei fywyd, y mwyaf poblogaidd yw Dido and Aeneas. Chwaraeir Dido’s Lament yn flynyddol ym mharêd cofio’r Senotaff yn Whitehall ar Ddiwrnod y Cadoediad, ac o ganlyniad mae o bosib yn un o’r ariâu mwyaf adnabyddus ym Mhrydain.
Britten
Mae Britten, a gafodd ei eni yn Suffolk, yn un o’r cyfansoddwyr Prydeinig modern enwocaf, wedi iddo gyfansoddi mwy na 100 o ddarnau o waith yn ystod ei fywyd, 16 ohonynt yn operâu. Llwyddodd i ddod â bri i opera Brydeinig am y tro cyntaf ers 300 mlynedd, ers cyfnod Purcell, ac mae ei operâu yn enghreifftiau gwych o’r canon Saesnig, gyda cherddoriaeth, themâu tywyll a heriau lleisiol sy’n nodweddiadol iawn o’r 20fed ganrif. Y Gwanwyn hwn, mae WNO yn perfformio cynhyrchiad newydd na ddylid ei fethu o Peter Grimes, ac yn y Gwanwyn 2024 daeth ein cynhyrchiad gwobrwyol o Death in Venicei’n llwyfannau.

Sir Karl Jenkins
Nid Lloegr yn unig sydd â chyfansoddwyr operâu gwych, ac mae ein gwlad y gân ninnau wedi bod yn gartref i nifer o gyfansoddwyr operâu a cherddoriaeth glasurol nodedig. Un enghraifft yw Syr Karl Jenkins, sy’n enedigol o’r Gŵyr. Mae Jenkins wedi arbrofi â jazz, roc a cherddoriaeth hysbysebu, ond cafodd ei lwyddiant mwyaf mewn Cerddoriaeth Glasurol, yn cynnwys ei waith corawl yn In These Stones, Horizon’s Sing, a gomisiynwyd yn 2004 ar gyfer agoriad ein cartref, Canolfan Mileniwm Cymru.
Sir James MacMillan
Mae’r Alban hefyd yn gartref i nifer o gyfansoddwyr clasurol gwych, ac un o’r cyfansoddwyr hynny yw Syr James MacMillan a gafodd ei eni yn Swydd Ayr. Mae gan amryw o’i gyfansoddiadau themâu crefyddol neu wleidyddol, gan gynnwys y nifer fawr o offerennau a gyfansoddodd yn ystod ei yrfa a’i waith cerddorfaol The Confession of Isobel Gowdie, sy’n adrodd hanes menyw yn cael ei dienyddio am ddewiniaeth yn yr 17eg Ganrif yn yr Alban. Bu hefyd yn ymwneud â byd opera, wedi iddo gael ei gomisiynu yn 2007 gan WNO i gyfansoddi The Sacrifice.
Vaughan Williams
Roedd Vaughan Williams, a gafodd ei eni yn Swydd Gaerloyw, yn gyfansoddwr Saesneg gwych o dras Gymreig, a anwyd yn 1872, gyda’i waith yn cynnwys cerddoriaeth operâu, bale, cynyrchiadau symffonig a siambr. Treuliodd Vaughan Williams dri mis yn dysgu dan arweiniad Ravel, ac mae ei gerddoriaeth yn parhau i fod yn boblogaidd heddiw, yn yr 21ain Ganrif. Ei opera enwocaf o ran ei repertoire yw The Lark Ascending a Fantasia on a Theme by Thomas Tallis, ac fe honnodd mai hynny oedd y rheswm am ddiffyg llwyddiant ei opera olaf, The Pilgrim’s Progress gan nad oedd digon o archarwyr a deuawdau cariadus yn y gwaith.
Os ydych chi’n chwilio am eich swmp o gerddoriaeth Brydeinig Wych, gallwch edrych ymlaen at gynhyrchiad Peter Grimes gan Britten o Ebrill 5. Mae’r stori eofn hon am arwahanrwydd ac unigedd wedi’i gosod mewn tref fechan yn Suffolk, gan adrodd stori wefreiddiol pysgotwr gofidus, yn erbyn Sea Interludes eiconig Britten.