Newyddion

Eiconau LHDTC+ gyda dylanwadau operatig

18 Mehefin 2025

Mae opera wedi bod yn ymgorfforiad o emosiwn dynol ers amser maith. Ond mae rhai artistiaid yn cysylltu ag opera, nid yn unig am ysbrydoliaeth, ond fel sylfaen. O hyfforddiant clasurol i ariâu byw, mae’r pedwar eicon LHDTC+ yma wedi dod ag opera i galon diwylliant poblogaidd modern.

Freddie Mercury

Pa restr na fyddai’n gyflawn heb Freddie Mercury? Llywiodd ei gariad at opera ei waith ar bob lefel. Roedd yn gefnogwr brwd o’r soprano gydnabyddedig Montserrat Caballé ac yn y pen draw cafodd wireddu breuddwyd o recordio Barcelona gyda hi ym 1988. Mae’r cydweithrediad uchelgeisiol hwn yn cyfuno roc gydag opera dros gefndir offerynnol. Ond roedd ei gariad at opera yn ddyfnach na hyn. Mae Bohemian Rhapsody, mewn sawl ffordd, yn opera roc fechan, symudiadau newidiol, adrannau corawl a thaith ddramatig.

Roedd cyfansoddiadau Mercury yn aml yn adlewyrchu ei edmygedd o opera. Yn It’s a Hard Life, mae’n dyfynnu Pagliacci Leoncavallo yn uniongyrchol. I Mercury, roedd opera’n cynnig rhywbeth pwerus, cerddoriaeth ar ei mwyaf theatrig, emosiynol a hollol ddigyfyngiad, ac fe’i cyflwynodd i filiynau na fyddai o bosibl wedi ei phrofi fel arall.

Mika

Fel Mercury, dechreuodd taith gerddorol Mika yn gynnar. Cafodd Mika ei addysgu gartref, a’i hyfforddi mewn cerddoriaeth gan y gantores opera broffesiynol o Rwsia, Alla Ardakov. Ymddangosodd gyntaf ar y llwyfan fel aelod o’r corws yn Die Frau Ohne Schatten Strauss yn y Tŷ Opera Brenhinol. Parhaodd â’i yrfa fel bachgen soprano gyda’r Opera Frenhinol, hyd nes iddo, yn y pen draw, berfformio mewn cynhyrchiad o The Pilgrim’s Progress, gan ddangos ei ystod leisiol lawn.

Yr hyfforddiant hwn a daniodd ei yrfa bop ac nid oedd ei reddf operatig byth yn rhy bell o’r wyneb. Mae Grace Kelly, ei lwyddiant mawr cyntaf, yn symud drwy’r cwmpas lleisiol fel aria. Mae ei allu i newid tôn ynghanol cân, haenu harmonïau a chyflwyno perfformiadau cymhleth emosiynol i gyd yn adlewyrchu sylfaen glasurol ddofn.

Lady Gaga

Mae crefft Lady Gaga wastad wedi’i wreiddio mewn drama a cherddoriaeth glasurol. Yn glasurol hyfforddedig mewn llais a phiano, astudiodd o dan ofal Don Lawrence ac aeth ymlaen i fireinio’i chrefft yn Ysgol Gelfyddydau Tisch, NYU. Mae ei pherfformiadau’n aml yn cyfuno ysblander pop gyda naws operatig. Yn ystod ei pherfformiad diweddar yng Nghoachella 2025, dywedodd wrth y dorf: “I decided to build you an opera house in the desert.” Byddai’n aml yn disgrifio’i steil fel “opera pop-electro.” Fel siampl o hyn, chafodd ei pherfformiad yn yr Olympics 2024 ei ysbrydoli’n drwm gan draddodiadau cabaret a operetta Ffrengig.

Klaus Nomi

Wedi’i fagu ym Mafaria, magodd Nomi ddiddordeb mewn opera o oedran ifanc, wrth wrando ar y difa a’r arbenigwraig eithriadol Maria Callas ar y radio. Wedi’i ysbrydoli gan Callas, datblygodd ystod leisiol o chwech wythfed, ac yng nghanol y 60au symudodd i Orllewin Berlin i hyfforddi fel bariton.

Dim ond ar ôl iddo symud i Efrog Newydd y datblygodd ei bersona llwyfan a fyddai’n uno ariâu yn arddull y baróc gyda phop-synth ac elfennau gweledol ffuglen wyddonol. Yn hynod, mae ei berfformiad o The Cold Song Purcell yn enghraifft drawiadol o bwysau emosiynol opera yn cael ei ddehongli’n ddychmygus ar gyfer cynulleidfa newydd. Gyda’i

wyneb wedi’i beintio, ei wisg ddyfodolaidd a’i reolaeth leisiol berffaith, dangosodd Nomi sut y gallai opera fod, heb unrhyw amheuaeth, yn rhyfedd a theimladwy ar yr un pryd. Er yn anffodus iddo farw’n ifanc, mae ei waith ar y sîn gerddoriaeth avant-garde wedi cael argraff barhaol.

Adam Lambert

Mae tebygrwydd Adam Lambert â Freddie Mercury yn ddyfnach na’i gysylltiad â Queen. Astudiodd Adam Lambert ganu clasurol a bu’n hyfforddi mewn opera. Roedd yn cydnabod ac yn dathlu ei gefndir operatig yn gyhoeddus, ac mae wedi perfformio Nessun dorma o Turandot Puccini.

Hyd yn oed yn ei berfformiadau pop a roc, mae hyfforddiant operatig Lambert yn amlwg. Mae ei reolaeth anadl, fibrato a’i ystod ddeinamig yn caniatáu iddo gyflwyno peth llais llawn egni heb straen. Pont lwyddiannus rhwng y byd cyfareddol a cherddoriaeth glasurol, sy’n dangos bod technegau ac arddull opera nid yn unig yn gydnaws â cherddoriaeth bop, ond gall hefyd ei wella.

Wedi eich ysbrydoli?

Mae cerddoriaeth glasurol ac opera yn guriad calon y celfyddydau. Pam na wnewch chi ddilyn esiampl llyfr Queen a chael A Night at the Opera? Pwy a ŵyr beth allech chi ei ddarganfod...