Newyddion

Cwrdd â John Richardson

27 Mai 2026

Fel cwmni 80 mlwydd oed sydd ar y trywydd i lwyfannu 200 o operâu, mae llawer o weithgarwch i gadw golwg arno yn Opera Cenedlaethol Cymru.

Dyna lle mae un o’n dau archifydd gwirfoddol, John Richardson, yn dod i mewn. Mae John yn frwd iawn dros waith archifo, a gwaith WNO. Mae John wedi bod gyda ni ers 15 mlynedd, ar ôl ymuno'n wreiddiol â Chyfeillion Opera Cenedlaethol Cymru pan ymddeolodd i Benarth yn dilyn gyrfa ddwbl mewn Theatr Gerdd ac Addysg Arbennig. Aeth ar daith gydag Opera i Bawb a chwaraeodd rolau fel Antonio yn The Marriage of Figaro a gweithio fel Rheolwr Cwmni.

Bu i ni dreulio ychydig o amser yng nghwmni John, gan ei holi am rai o’r hoff ddarnau yn yr archif, ei obeithion ar gyfer y dyfodol, a sut y chwaraeodd ran fechan mewn dod â Death in Venice i'r llwyfan.

John Richardson gyda rhaglen Blaze of Glory! a rhaglen cyntaf Opera Cenedlaethol Cymru.

John, dywedwch wrthym pam rydych yn gwneud yr hyn rydych yn ei wneud.

Rwyf wrth fy modd yn cadw’r cofnod a gweld sut mae’r cwmni wedi datblygu dros y blynyddoedd. Mae gennym ohebiaeth sy’n mynd yn ôl 80 mlynedd o'r sylfaenwyr yn cofnodi pob ceiniog o’u harian eu hunain yr oeddent yn ei roi i mewn yn ystod y dyddiau cynnar hynny.

Mae pobl yn anghofio’r ffeithiau wrth i amser fynd heibio, neu maen nhw’n clywed bod eu Tad-cu wedi bod yn yr Opera. Rydym yn eu helpu i ddod o hyd i’r dystiolaeth yn ein miloedd o ddogfennau a delweddau. Nid y papur yn unig sy’n bwysig, ond y bobl sy’n gwneud y cwmni, ac mae’r holl hanes hwnnw wedi’i ddogfennu gennym.

Hyd yn oed os nad oes gennym lun o’u Tad-cu, efallai bod gennym ei enw ar y gofrestr wreiddiol o aelodau, neu ei enw mewn rhaglen. Rwy’n cael pleser mawr mewn dod o hyd i’r cysylltiadau hynny

Pam opera? Pam cawsoch eich denu at y gelfyddyd hon?

Gwelais Peter Grimes gan Britten yn ddamweiniol ym Manceinion pan oeddwn yn 15 mlwydd oed, a dyna ni, roeddwn wedi cael fy nghyflwyno i'r byd opera.

Gweithiais gyda Benjamin Britten yn Aldeburgh am bedair blynedd ac roedd hwnnw'n gyfnod hyfryd yn fy mywyd. Mae gennyf ddyfyniadau cerddoriaeth wedi’u hysgrifennu ganddo, sy’n ddarn hyfryd i’w gael yn fy nghasgliad personol.

Mae’r cysylltiad hwnnw â Britten wedi parhau yn WNO. Mae gennym lythyr gan Britten ei hun. Ysgrifennodd y llythyr at Gyfarwyddwr Cerdd WNO yn dilyn perfformiad o Billy Budd yn Sbaen i longyfarch y cwmni.

Dywedwch wrthym am eich adegau mwyaf cofiadwy gydag WNO.

I mi'n bersonol, yr adeg pan aethon ni â chynhyrchiad Ring Cycle Wagner i’r Tŷ Opera Brenhinol. Fe drawsnewidiodd hynny enw da'r cwmni o grŵp taleithiol ar y pryd i gwmni rhyngwladol. Mae pobl yn dal i siarad am hynny 40 mlynedd yn ddiweddarach.

I gael ei anrhydeddu fel ag yr oedd; cafodd ei recordio, a’i ddarlledu - dyna un o'r uchafbwyntiau yn hanes y cwmni.

Ym 1989, aethon ni â Diana, Tywysoges Cymru, i Efrog Newydd a pherfformio Falstaff gan Verdi yn Brooklyn Academy of Music. Agorodd hynny cymaint o ddrysau i’r cwmni, er enghraifft, cinio mawreddog ac ati. Mae hynny’n teimlo fel adeg wirioneddol yn ein hanes hefyd.

Ac, yn ystod y cyfnod clo, ysgrifennais flog rheolaidd. Yn un ohonyn nhw, dywedais fod yn rhaid i ni berfformio Death in Venice pan oedden ni’n dychwelyd i'r llwyfan - a dyna'n union ddigwyddodd. Hoffwn feddwl fy mod wedi chwarae rhan yn hynny!

Cynhyrchiad 2024 o Death in Venice gan Opera Cenedlaethol Cymru.

Beth yw eich gobeithion ar gyfer yr 80 mlynedd nesaf (neu ragor!) i WNO?

Mae’r ffaith ein bod wedi dal ati'n gyflawniad anhygoel, mae’r cwmni dal yma, rydym yn cynllunio ymlaen llaw ar gyfer y tymor nesaf. Y teimlad teuluol yw’r hyn sy’n gwneud WNO mor arbennig, a dyna fydd yn ei gadw i fynd am 80 mlynedd arall.

Yn ogystal, mae’n hyfryd bod yr un grŵp o bobl yn gallu perfformio Blaze of Glory, sy’n creu awyrgylch ysgafn, un wythnos ac yna'n perfformio The Flying Dutchman sy’n wyllt wallgof yr wythnos wedyn. Dyma dystiolaeth eithaf o’n safon fyd-eang, ac rwy’n gobeithio y byddwn yn parhau i lwyfannu opera fel hyn.