”Mae opera yn ymwneud â phobl” - Dewch i gwrdd â Richard, aelod yn ei arddegau o’r gynulleidfa sydd bellach yn gefnogwr gydol oes
3 Awst 2026Wrth i ni barhau i nodi 80 mlynedd o Opera Cenedlaethol Cymru, buom yn sgwrsio â Richard Brooks - carwr opera gydol oes a chefnogwr hael i WNO - am ei gariad gydol oes â’r gelfyddyd, a’i obeithion ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol o berfformwyr opera, cynulleidfaoedd a chyfranogwyr.
Dechreuodd perthynas Richard â’r opera pan oedd yn 14 oed, pan welodd gynhyrchiad mewn theatr yn Croydon. Gyda Glyndebourne mor agos at gartref ei fodryb, daeth opera yn ddigwyddiad rheolaidd yn ei fywyd ac, wyth degawd yn ddiweddarach, mae bellach yn rhan wedi’i gwreiddio’n ddwfn o bwy ydyw - yn ogystal â bod yn rhan annatod o’i briodas gyda’i wraig, Sheila.
Gyda Sheila, mae wedi teithio’r byd gyda’i yrfa fel peiriannydd sŵn gyda Rolls-Royce Aero-Engines, gan fanteisio ar bob cyfle i brofi perfformiadau byw mewn lleoliadau awyr agored fel Verona, yr Eidal, yn ogystal â thai hanesyddol yn Vienna a Salzburg.
“Yn ystod fy mlynyddoedd o deithio gyda’r gwaith, magais hyder i gael gwyliau ‘hedfan a gyrru’ yn yr UDA, oedd yn cynnwys ymweld â Santa Fe Opera.” Dywedodd Richard, “Mae picnic yng ngwres llethol maes parcio’r tŷ opera reit wahanol i’r hyn sy’n cyfateb yn Glyndebourne.”
“Yr hanesyn uchod sydd yn rhannol gyfrifol am gariad fy ngwraig a minnau at yr opera: gallu mynd i gymaint o ddinasoedd tramor diddorol, yn ddelfrydol lleoliadau tai opera da!”
Teg yw dweud nad cefnogwr achlysurol yw Richard. Mae ei berthynas ag WNO yn mynd yn ôl ddegawdau, ar ôl gweld y Cwmni’n perfformio am y tro cyntaf yn yr Hippodrome Bryste pan oedd yn gweithio yn y ddinas.
“Creais restr o faint o berfformiadau WNO yr oeddwn wedi eu mynychu yn bersonol, a’r rhif oedd 64.” Dywed Richard, “Efallai fod hyn yn rhyw fath o ddangos fy nghymwysterau!”
Er bod rhestr Richard o’r operâu y mae wedi’u mwynhau yn un faith, esbonia mai ei ffefryn yw un na fyddai llawer yn ei chrybwyll neu wedi’i gweld, Fidelio Beethoven: “Mae’n sôn am ŵr a gwraig - y cariad parhaus rhyngddynt, lle mae hi’n aberthu popeth er mwyn ei achub.”
Dyma ffefryn, sydd wedi ei wneud yn fwy teimladwy o ystyried bywyd Richard a Sheila gyda’i gilydd, yn teithio’r byd a phrofi opera fel cwpwl.
Er mai Fidelio yw ei ffefryn, mae’n parhau - yn ei eiriau ei hun - i “lobïo” WNO i berfformio Lucia di Lammermoor Donizetti, un arall o’i ffefrynnau.
“Mae Aida yn un opera a welais yn Verona yn y Fforwm awyr agored, roedd yn dipyn o brofiad,” ychwanegodd Richard. “Rwy’n awyddus i WNO ei pherfformio!”
I Richard, mae gwir hud yr opera yn ymestyn y tu hwnt i’r gerddoriaeth a’r llwyfannu: yr hyn mae’n ei werthfawrogi fwyaf yw’r gymuned a’r perthnasoedd personol y mae wedi eu creu am dros bron i wyth degawd yn dilyn y gelfyddyd.
“Un o nodweddion Opera Cenedlaethol Cymru yw pa mor gyfeillgar yw pawb,” meddai, “Mae opera yn ymwneud â phobl. Mae’n ymwneud â cherddoriaeth hefyd, ond pobl sy’n creu cerddoriaeth. Felly, y cysylltiad personol yw’r hyn yr wyf wirioneddol yn ei werthfawrogi.”
Yn 92 bellach, mae Richard yn edrych ar y genhedlaeth nesaf o artistiaid: “Sefydlodd fy ngwraig a minnau fwrsariaeth ar gyfer artistiaid y dyfodol gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Rydym am sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer y genhedlaeth nesaf - mae opera yn ddiddordeb drud!”
Rydym yn hynod ddiolchgar i Richard a Sheila am eu haelioni, caredigrwydd a chyfeillgarwch anhygoel tuag at WNO. Mae eu cefnogaeth sylweddol wedi rhoi cyfleoedd sydd wedi newid bywydau llawer, a theimlir effaith hyn am genedlaethau i ddod.