Newyddion

Cerddoriaeth Glasurol Fwganllyd ar gyfer Calan Gaeaf

31 Hydref 2018

Pa un ai a ydych yn dewis ffilmiau arswyd, nofelau cyffrous neu reidiau cyflym mewn ffair, mae pob un ohonom yn hoffi dychryn ein hunain o bryd i’w gilydd.  Os ydych eisiau adeiladu’r tensiwn y calan gaeaf hwn, beth am droi at fyd cerddoriaeth glasurol lle mae yna gyfansoddiadau a fydd yn sicr o yrru ias i lawr eich cefn.

Pa un ai a yw’n berfformiad byw neu’n drac sain o ffilm, gellir defnyddio cerddoriaeth i’n syfrdanu a’n dychryn ni.  Gall cerddorfa wneud i ni neidio gyda chaniad annisgwyl gan yr adran bres ond weithiau'r llinynnau ysgafn sydd fwyaf bygythiol wrth iddynt gynyddu’r tensiwn.

Mae yna gymaint o enghreifftiau brawychus ond rydym ni wedi dewis rhai o’n ffefrynnau i’w rhannu gyda chi - efallai y byddwch wedi clywed rhai o’r darnau’n cael eu chware yn ein Cyngerdd Calan Gaeaf i’r Teulu yn ddiweddar.  Gobeithio na chawsoch chi hunllefau!

Greig In the Hall of the Mountain King

Mae hwn yn ddarn o gerddoriaeth hynod o adnabyddus ac yn enghraifft berffaith o sut i gynyddu tensiwn.  Wedi’i chyfansoddi’n wreiddiol fel cerddoriaeth achlysurol ar gyfer Peer Gynt Suite gan Grieg mae hefyd wedi cael ei samplo gan fandiau gan gynnwys Pink Floyd a Marillion, wedi ymddangos yn y gyfres deledu Mad Men ac mewn gemau fideo gan gynnwys The Witness.


Mae Symphonie Fantastique ganHector Berlioz, yn cynnwys amrywiaeth o effeithiau, o’r feiolíns yn defnyddio cefn eu bwâu i greu sŵn crochanau yn byrlymu yn y rhan Dream of a Witches’ Sabbath i’r cord G leiaf yn cynrychioli’r gilotîn yn March to the Scaffold.


J S Bach Toccata & Fugue in D 

Mae Toccata & Fugue in D Minorgan J S Bach, yn dechrau gyda chyflwyniad dramatig, rydych chi’n ei adnabod yn syth, mae’r darn yn hynod arswydus ac yn un o’r darnau cerddoriaeth fwyaf dychrynllyd.  Defnyddiwyd y darn mewn ffilmiau arswyd clasurol gan gynnwys The Black Cat a Dr Jekyll and Mr Hyde, ac mae hefyd wedi ymddangos yn Doctor Who.


Mae ffilmiau’r ugeinfed ganrif hefyd yn cynnwys cerddoriaeth achlysurol eiconig sy’n cael eu cysylltu ag ofn.  Ymhlith yr enghreifftiau mwyaf enwog mae thema John Williams o’r ffilm Jaws gan Steven Spielberg sydd wedi cadw pobl allan o’r môr ers 1975; cyfraniad Bernard Hermann i’r ffilm Psycho gan Hitchcock gyda’r olygfa gofiadwy yn y gawod; a phwy all anghofio’r adagio o Music for Strings, Percussion and Celesta gan Béla Bartók a gafwyd yn The Shining gan Kubrick.

Os buoch i dymor Gwanwyn 2018 efallai y gwelsoch Don Giovanni yn cael ei lusgo i lawr i uffern.  Mae’r olygfa Commendatore yn ddramatig, gyda cherddoriaeth sy’n gwneud i’ch calon guro wrth i’r prif gymeriad gael ei ddwyn ymaith.  Yn ogystal, roedd ymddangosiad cyntaf ein Cyfarwyddwr Cerdd newydd, Tomáš Hanus yn 2016, yn cynnwys Resurrection Symphony Mahler sy’n cynnwys yr enwog sgrech farwolaeth.

Efallai y gallwch ychwanegu rhai o’r rhain at eich rhestr chwarae Calan Gaeaf.