
Mae mis Mehefin yn fis Balchder. Cyfnod i ddod at ein gilydd i gefnogi, dysgu a dathlu. Mae’n gyfle i’n hatgoffa bod Mis Balchder, drwy gydol y flwyddyn, nid yn unig yn bwysig ond yn hanfodol.
Bu mis Balchder erioed yn brotest. Enillwyd yr hawliau LHDTC+ a welwn ni heddiw trwy ymdrechion diflino, gweithredwyr dewr a chymunedau a frwydrodd dros gydraddoldeb, gwelededd a gwirionedd. Eleni, mae’r frwydr dros hawliau LDHTC+, enwedig ar gyfer ein cyfeillion traws ac anneuaidd yn bwysicach erioed.
Yn Opera Cenedlaethol Cymru, rydym yn sefyll yn gadarn gyda’r gymuned LHDTC+ ac yn cadarnhau hawl pawb i fyw’n ddilys, heddychlon ac yn ddiogel. Bu opera erioed yn ymwneud a defnyddio’r llais, i adrodd straeon, i fynegi hunaniaeth, i herio ac i godi calon. Rydym yn annog pawb i fod yn gynghreiriad a defnyddio’ch llais. Siaradwch yn erbyn rhagfarn a chasineb o bob math a sefwch gyda’r rhai sy’n cael eu niweidio.
Rydym yn falch o ddathlu Mis Balchder – gan gymryd ein lle yng nghanol y llwyfan gyda llawenydd ac undod, gan rannu ein celf, ein cariad, ein teuluoedd a’n lleisiau – yn falch a heb esgusodiad.
Felly gadewch inni wrando. Gadewch inni ofalu. Gadewch inni gefnogi ein gilydd - trwy gydol y flwyddyn.