Newyddion

Ble ydw i wedi clywed agorawd William Tell o'r blaen?

12 Hydref 2018

Perfformiwyd William Tell am y tro cyntaf yn 1829 a hon oedd yr olaf o 39 o operâu Rossini, ar ôl hynny fe ymddeolodd yn rhannol. Bydd Cerddorfa WNO yn perfformio'r agorawd adnabyddus fel rhan o'n cyngerdd agoriadol yn y Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol eleni yn Neuadd Dewi Sant ar ddydd Sul 4 Tachwedd (3pm). Mae rhannau o'r agorawd hon wedi cael eu defnyddio dro ar ôl tro (ac yn aml fel parodi) yn y cyfryngau poblogaidd, yn fwyaf enwog fel cerddoriaeth thema i The Lone Ranger ar y radio, y teledu ac mewn ffilm. Ond, ble arall y gallech chi fod wedi clywed yr agorawd hon?

Efallai bydd y rhai sy’n hoffi cartwnau yn adnabod y darn o nifer o wahanol olygfeydd: mae'r agorawd yn nodwedd amlwg yn y cartŵn Mickey Mouse The Band Concert gan Walt Disney. Mae hi hefyd wedi cael ei defnyddio mewn animeiddiadau sy’n barodi o gerddoriaeth glasurol (e.e. Overtures to Disaster Bugs Bunny lle mae’r diweddglo yn cael ei berfformio gan Daffy Duck a Porky Pig) neu animeiddiadau cowbois fel Bugs Bunny Rides Again. Mae'r diweddglo hefyd wedi cael ei ganu gan Daffy Duck gyda geiriau wedi’u hysgrifennu’n arbennig yn Yankee Doodle Daffy a phedwarawd o blismyn sy’n canu yn y bennod The Hot Piano! o’r gyfres The Flintstones.

Mae'r agorawd hefyd yn un o'r darnau o gerddoriaeth glasurol sy’n cael ei ddefnyddio mwyaf aml mewn hysbysebion yn America - gyda seicolegwyr yn awgrymu ei bod yn arbennig o addas ar gyfer hysbysebion sy'n targedu cwsmeriaid gwrywaidd. Ymhlith eraill, cafodd fersiwn hip-hop o’r agorawd ei defnyddio gan DJ Shadow i gyd-fynd ag ymgyrch hysbysebu ar gyfer Reebok yn 2001 a defnyddiwyd fersiwn electronig ar gyfer ymgyrch i hysbysebu’r Honda Civic yn 2008.

Mae’r ffilmiau sy'n rhoi lle amlwg i’r agorawd yn cynnwys A Clockwork Orange gan Stanley Kubrick, lle mae ail-drefniad electronig o’r diweddglo yn cael ei chwarae yn ystod golygfa cywestach. Defnyddiwyd cymal agoriadol y diweddglo hefyd yn y ffilm The Princess Diaries pan mae’r Pennaeth Diogelwch Joe yn achub Mia Thermopolis ar ôl i’w Mustang ballu mewn storm drom. Mae’r agorawd hefyd yn rhan o sgôr y ffilm Duck Soup gan y Brodyr Marx a'r ffilm drychineb Armageddon.

Mae'r agorawd, yn enwedig ei diweddglo, hefyd yn cael ei chwarae mewn rhai gemau chwaraeon yn America - yn ystod y drydedd saib teledu o bob ail hanner yng ngemau pêl-fasged Prifysgol Indiana, mae'r band a’r codwyr hwyl yn perfformio'r agorawd gyda’r codwyr hwyl yn rasio o gwmpas y cae gan gario deunaw o faneri – sydd wedi bod yn draddodiad ers diwedd y 1970au.

Yn fwyaf diweddar efallai eich bod wedi clywed yr alaw ar hysbyseb y gadwyn frechdanu Subway - mewn ailgymysgedd gitâr trydan.

Perfformiodd Opera Cenedlaethol Cymru yr opera lawn y tro diwethaf yn 2014.