Cyd-gyfarwyddwyr Cyffredinol WNO yn derbyn Cymrodoriaethau Anrhydeddus Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
10 Gorffennaf 2026Mae Cyd-gyfarwyddwyr Cyffredinol a Phrif Weithredwyr Opera Cenedlaethol Cymru, Adele Thomas a Sarah Crabtree wedi derbyn Cymrodoriaethau Anrhydeddus gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i gydnabod eu cyfraniad nodedig i’r celfyddydau a diwylliant.

Llun gan Kirsten McTernan
Cyflwynwyd y Cymrodoriaethau yn ystod seremonïau graddio’r Coleg yng Nghaerdydd, gan ddathlu unigolion y mae eu harweinyddiaeth, eu creadigrwydd a’u hymrwymiad wedi cael traweffaith sylweddol ar y sector diwylliannol.
Mae’r anrhydedd yn cydnabod arweinyddiaeth ar y cyd Adele a Sarah gyda WNO, lle maent yn arwain pennod newydd, feiddgar i’r Cwmni drwy arloesedd artistig, cydweithrediad ac ymrwymiad i sicrhau bod opera’n parhau i fod yn berthnasol, yn hygyrch, ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd heddiw.
Gyda’i gilydd maent wedi gosod creadigrwydd, cynhwysiant a phartneriaeth wrth galon dyfodol WNO, gan helpu i atgyfnerthu statws y Cwmni fel un o sefydliadau diwylliannol arweiniol Cymru.
Mae Adele Thomas wedi derbyn canmoliaeth am ei chynyrchiadau sy’n drawiadol yn weledol ac yn rhai y gellir uniaethu â hwy’n emosiynol, a hithau wedi cyfarwyddo yn rhai o dai opera a theatrau mawr eu bri gan gynnwys y Royal Opera Youse, Glyndebourne a Theatr y Globe Shakespeare. A hithau’n Gyn-gynhyrchydd Creadigol gyda’r Royal Opera ac yn Gynhyrchydd Cyswllt Opera Holland Park, mae Sarah Crabtree yn arweinydd diwylliannol sy’n hyrwyddo arweinyddiaeth ar y cyd, arloesi a mwy o hygyrchedd ar draws y celfyddydau.
Mae’r ddwy yn ymuno grŵp uchel eu parch o Gymrodorion Anrhydeddus 2026 gan gynnwys Sara Beer (Cyfarwyddwr Change yn Craidd); Toks Dada (Pennaeth Cerddoriaeth Glasurol yn y Southbank Centre), y chwaraewr corn sy’n enwog yn rhyngwladol, Ben Goldscheider, y dylunydd arobryn Hayley Grindle a’r baswr chwedlonol o Gymru Pino Palladino.
Dywedodd Adele: “Mae derbyn y Gymrodoriaeth hon gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn anrhydedd fawr. Mae’r Coleg yn chwarae rhan mor bwysig yn datblygu talent greadigol Cymru a meithrin y genhedlaeth nesaf o artistiaid.
"Mae gen i berthynas broffesiynol hir a gwerthfawr gyda'r Coleg ac rwy'n edrych ymlaen at gael gwneud rhagor o waith artistig ar y cyd i adrodd straeon beiddgar yma yng Nghymru.”
Dywedodd Sarah: “Mae’n anrhydedd fawr i ni dderbyn y Gymrodoriaeth hon gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae’r Coleg yn un o gonglfeini bywyd diwylliannol Cymru ac mae’n rhannu ein cred yng ngrym trawsnewidiol y celfyddydau.
“Mae’r gydnabyddiaeth yn adlewyrchu nid yn unig ein partneriaeth, ond hefyd y creadigrwydd pawb yn Opera Cenedlaethol Cymru wrth i ni barhau i ail-ddychmygu yr hyn all opera fod ar gyfer cynulleidfaoedd ar draws Cymru a thu hwnt.”