Opera Cenedlaethol Cymru’n Cyhoeddi Tymor 26/27 - Pennod Newydd Gyffrous i’r Cwmni
15 Ebrill 2026Heddiw mae OPERA CENEDLAETHOL CYMRU yn cyhoeddi ei rhaglen ar gyfer Tymor 26/27 - datganiad pwerus o adnewyddiad, sydd nid yn unig yn nodi 80 mlynedd ers perfformiad cyntaf y Cwmni, ond hefyd dechrau cyfnod newydd, beiddgar.
Dan arweinyddiaeth y Cyd-gyfarwyddwyr Cyffredinol a Phrif Weithredwyr Adele Thomas a Sarah Crabtree, dyma’r tymor cyntaf o wireddu WNO sydd wedi’i ailddychmygu: cwmni opera amrywiol a blaengar, sy’n uchelgeisiol yn rhyngwladol ac sydd wedi’i wreiddio yng Nghymru a’i ailsiapio ar gyfer y 21ain ganrif.
Mae’r tymor newydd yn arwydd o ailenedigaeth a cham hyderus ymlaen at ddyfodol opera. Nawr, 80 mlynedd ers ei sefydlu gan gymunedau ar draws Cymru, mae’r WNO yn ailddiffinio’r hyn y gall opera fod: cynhyrfus, cynhwysol, trawiadol yn weledol ac yn llawn perthnasedd.
Mae opera yn golygu’r cydweithrediad eithaf, profiad trydannol gyda’r pŵer digymar i symud - mae’n rhywbeth sy’n hawlio sylw’n syth, sy’n ymdrochol ac yn amhosib i’w anwybyddu.
Tymor o Angerdd a Dychymyg, Aileni ac Ail-greu
Mae tymor 26/27 yn cyfuno cyfuniad deinamig o repertoire eiconig gydag ail-ddehongliadau dewr a lleisiau newydd nodedig sy’n adlewyrchu ymrwymiad WNO i opera fel ffurf gelfyddydol hanfodol, fodern.
Mae Tymor yr Hydref yn dechrau’r tymor mewn steil gyda dangosiad dwbl trawiadol o Bluebeard’s Castle ac Oedipus Rex - dau gampwaith cymhleth yn seicolegol ac yn wefreiddiol yn gerddorol wedi’u dwyn ynghyd mewn un noson gymhellol. Wedi’i harwain gan Lidiya Yankovskaya a’i chyfarwyddo gan Joe Hills-Gibbins gyda cherddoriaeth ychwanegol gan Hildegard Von Bingen, mae’r paru uchelgeisiol yma’n archwilio pŵer, ffawd a’r cyflwr dynol drwy lens theatrig, fodern.
Mae’r cynhyrchiad ENO gwreiddiol o opera hudolus Bartók sydd wedi’i enwebu ar gyfer gwobr Olivier, Bluebeard’s Castle, yn dilyn Judith a’i chariad obsesiynol tuag at y Duke Bluebeard. Yn yr ail hanner, rydym yn mynd ar daith i ddinas hynafol Thebes ar gyfer cynhyrchiad newydd o Oedipus Rex Stravinsky wrth i’r tir ddisgyn i grafangau pla dinistriol. Gan gynnwys libretto gan Jean Cocteau, mae’r cast yn cynnwys Peter Hoare
(Oedipus), Christine Rice (Judith a Jocasta) a Nathan Berg (Bluebeard a Tiresesas).
Mae dehongliad newydd o La bohѐme Puccinni yn cyrraedd WNO gyda chynhyrchiad pum seren Glyndebourne sy’n dal angerdd emosiynol amrwd cariad ifanc a cholled. Dan arweiniad Corinna Niemeyer ac wedi’u cyfarwyddo gan Floris Visser, mae cast rhyngwladol yn dod ag egni ffres, sinematig i’r berthynas rhwng Mimì (Alexia Voulgaridou) a Rodolfo (Carlos Cardoso) – hanes dinistriol sydd wrth galon un o hoff weithiau mwyaf arhosol y byd opera. Mae’r cast hefyd yn cynnwys Navasard Hakobyan (Marcello) a Laura Lolita Perešivana (Musetta), yn ogystal ag Artistiaid Cyswllt WNO, Owain Rowlands (Schaunard) a Ross Fettes (Colline).
Mae Cyngerdd Teulu ac Ysgolion OCC yn dychwelyd gyda rhaglen sydd wedi’i hysbrydoli gan chwedloniaeth, ac sy’n dod â bydoedd Hen Wlad Groeg a Rhufain yn fyw mewn ffordd gofiadwy. Wedi’i gyflwyno gan Elin Llwyd a’i berfformio gan gerddorfa lawn gydag unawdwyr, bwriad y perfformiad llawn egni yma yw tanio dychymyg cynulleidfaoedd ifanc ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf sy’n caru opera. Gan dynnu ar amrywiaeth cyfoethog o adrodd straeon cymhellol, mae’r cyngerdd yn cynnwys agorawd Creatures of Prometheus Beethoven ochr yn ochr ag arias gan Lully, Handel, a Mozart, Can-Can afieithus Offenbach, a rhannau chwareus megis Ballo de Orsi (Dawns yr Eirth).
Gan barhau gydag ymrwymiad WNO i ehangu ei rhaglen, mae The Anonymous Lover yn cynnig persbectif ffres ar opera’r 18fed ganrif. Wedi’i chyfarwyddo gan Omar Elerian a’i harwain o’r harpsicord gan Frederick Brown gyda libretto newydd gan Tife Kusoro wedi’i channu yn Ffrangeg, mae’r gwaith yn cyfosod hiwmor gyda chysylltiad teimladwy, wrth ddathlu’r gorau o ganu Baróc. Gan gynnwys Nardus Williams sy’n serennu fel Leontine, mae’r ail-ddychmygiad bywiog hwn o opera hudolus Joseph Bologne yn ffurfio rhan o’r ffrwd newydd o weithiau ar raddfa siambr ein rhaglennu newydd mewn lleoliadau gan gynnwys Old Vic Bryste a Theatr Clwyd.
Wedyn paratowch i godi hwyliau ar gyfer hen wlad Groeg gydag opera deuluol Tymor y Gwanwyn, Jason and the Argonauts ar daith eofn, gyflym 45 munud i ddod o hyd i’r Cnu Euraid chwedlonol. Wedi’i gyfarwyddo gan Jac Ifan Moore a’i arwain o’r harpsicord gan Stephen Wood, gyda dyluniad gan Rebecca Jane Wood, mae’r blas ar gynhyrchiad yma yn berffaith ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc, yn arbennig felly plant 7-12 oed.
Yn cloi Tymor 26/27 mae Hedd Wyn: Eisteddfod Atomig, sef cynhyrchiad ar y cyd â Theatr Cymru sy’n ailosod stori glasurol o Gymru sydd â pherthnasedd ymhell y tu hwnt i’w gwreiddiau. Wedi’i osod mewn dyfodol ôl-apocalyptaidd a’i berfformio’n gyfan gwbl yn Gymraeg, mae’r cynhyrchiad hwn yn rhoi hanes a diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg ar ganol y llwyfan. Mae’r ffantasia seicadelig yma sydd wedi’i chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru, Steffan Donnelly a’i harwain gan Iwan Teifion Davies, yn cynnwys cerddoriaeth gan Stephen McNeff a libretto gan Gruff Rhys (Super Furry Animals). Bydd y cast yn cynnwys Steffan Lloyd Owen, Rebecca Evans CBE a Paul Carey Jones.
Gwreiddiau yng Nghymru a Gweledigaeth Fyd-eang
Mae Tymor 26/27 yn adlewyrchu ymrwymiad o’r newydd i osod artistiaid o Gymru, straeon a chynulleidfaoedd wrth galon gwaith WNO, wrth arddel safbwynt rhyngwladol sy’n edrych tuag allan.
Mae ein hensemblau, Cerddorfa a Chorws Opera Cenedlaethol Cymru sydd o safon fyd-eang yn ganolog i’n holl waith. O ddehongliadau newydd o weithiau canonaidd i ddyrchafu lleisiau cyfoes nodedig, mae WNO yn gosod ei hun fel grym diwylliannol sy’n falch o’i Gymreictod ac sy’n berthnasol yn fyd-eang.
Elfen allweddol o adnewyddu brand WNO ar gyfer Tymor 26/27 Season yw delweddiaeth newydd drawiadol gan y prif artistiaid o Gymru Charlotte James a Clémentine Schneidermann yn Bleak Fabulous. Mae eu harddull nodedig yn cofnodi Cymru ôl-ddiwydiannol gydag ymdeimlad credadwy o liw, gobaith a hwyl. Yn benodol, mae ymgyrch boster amlwg yn cynnwys staff ar draws y sefydliad mewn gwisg lawn, gan gyflwyno WNO fel cwmni o artistiaid, ond hefyd nerth creadigol cyffredin gyda brwdfrydedd o’r newydd. Yn yr un modd, mae’r ffotograffydd enwog Jon Pountney wedi creu cofnod o’r Cwmni dros y flwyddyn ddiwethaf; gan arwain at arddangosfa sy’n bersonol ac sy’n datgelu, yn un sy’n arsylwi ac sydd wedi’i gwreiddio’n ddwfn mewn pobl a lle. Yn ogystal, mae Enillydd Gwobr Cymru 2025 Don Leisure wediysgrifennu darn newydd o gerddoriaeth gan ailgymysgu La bohème, fydd yn drac sain i ymgyrch Tymor 26/27.
Bwlch: Pas yr Artist / The Artist’s Pass
Rydym yn wneuthurwyr theatr ac yn storïwyr; dylai ein holl waith fod yn gelf.
Bwlch - Pas yr Artist yw ein cynnig i artistiaid Cymru wrth i ni ailgynnau opera fel prif gelfyddyd ddeinamig ein hoes. P’un a ydych yn hyfforddi, wrthi’n sefydlu neu’n hen law arni, rydym yn eich gwahodd chi - y crëwyr a’r curaduron, yr artistiaid, y technegwyr, y crefftwyr a'r cynhyrchwyr i’n cartref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru i weld mwy o’n gwaith.
Rydym yn datgelu haenau o'n prosesau creu sioeau gyda’r gobaith y byddwn efallai’n ysbrydoli ein gilydd ac yn tanio'r genhedlaeth nesaf o lunwyr opera.
Mae ein cynnig yn cynnwys:
· Tocynnau wrth gefn am £10
Bydd holl ddeiliaid Pas yr Artist yn gymwys i gael tocyn wrth gefn am £10 ar gyfer perfformiadau WNO yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar gyfer unrhyw sedd nad yw wedi ei llenwi ar ddiwrnod y perfformiad (un tocyn fesul person, yn ddibynnol ar argaeledd).
· Mynediad Arbennig i'r Ymarferion Gwisgoedd
Dewch i gael cipolwg ar ein proses gyda seddi neilltuedig mewn ymarferion gwisgoedd.
I ymuno â Bwlch yn ei flwyddyn gyntaf, rhaid i chi fod yn preswylio yng Nghymru. Dylai artistiaid o Loegr a thu hwnt gadw llygad ar ein gwefan am ddiweddariadau pellach yn y dyfodol.
Cyfnod Newydd Beiddgar i’r Byd Opera
Wrth i WNO nodi ei 80ain mlwyddiant, mae’r ffocws yn sicr ar y dyfodol.
Mae’r tymor hwn yn cynrychioli newid sylweddol yn ein trawsffurfiad hirdymor - gan adeiladu cwmni opera sy’n gydnerth, yn gynhwysol ac sy’n feiddgar yn gelfyddydol. Drwy gydweithrediadau newydd, rhaglennu beiddgar ac ymrwymiad i gynnig opera i gynulleidfaoedd ehangach, mae WNO yn ailddiffinio ei rôl yng Nghymru ar y llwyfan rhyngwladol.
Meddai Adele Thomas a Sarah Crabtree, Cyd-gyfarwyddwyr Cyffredinol a Phrif Weithredwyr Opera Cenedlaethol Cymru:
“Mae’r tymor hwn ynghylch yr hyn y gall opera fod - cynhyrfus, disymwth a llawn bywyd. Rydym am i bob cynhyrchiad deimlo fel profiad gwefreiddiol: rhywbeth sy’n eich synnu, sy’n cyffwrdd â chi ac sy’n aros gyda chi ymhell wedi i chi adael y theatr.
“Wrth i ni nodi 80 mlynedd o Opera Cenedlaethol Cymru, nid yw’n fwriad i ni edrych yn ôl. Rydym yn edrych ymlaen gydag uchelgais a chyffro. Mae hwn yn aileni WNO, ac yn wahoddiad i gynulleidfaoedd ym mhobman i brofi opera mewn ffordd sy’n teimlo’n gynhyrfus, yn gyfoes ac yn fywiog.
“Credwn fod opera yn perthyn i bawb. Mae’r tymor hwn am rannu’r uchelgais honno a phŵer cyffrous adrodd straeon drwy gân.”
ENDS.
Neil Collins
Strategic Communications Lead | Arweinydd Cyfathrebiadau Strategol
Welsh National Opera | Opera Cenedlaethol Cymru neil.collins@wno.org.uk 02920 635 087 / 079 7154 1068