Cwrdd â WNO

Adrian Dwyer

Cafodd Adrian Dwyer ei eni ym Melbourne ac fe’i hyfforddwyd yn Guildhall School of Music and Drama a’r National Opera Studio. Gwnaeth ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf yn Los Angeles yn chwarae rhan Rodolfo yng nghynhyrchiad Baz Luhrmann o La bohème. Derbyniodd Wobr ‘Cymeradwyaeth’ yr LA Stage Alliance.

Gwaith diweddar: Iddew 1af Salome (Opera North); Y Tywysog Andrey Khovansky Khovanshchina (WNO); Florestan Fidelio (Longborough Festival Opera)