Cwrdd â WNO
Ainārs Rubiķis
Trosolwg
Ganed Ainārs Rubiķis yn Riga ac astudiodd yn Academi Gerddoriaeth Jāzeps Vītols yn Latfia. Enillodd Gystadleuaeth Arwain Gustav Mahler yn 2010 a'r Wobr am yr Arweinydd Ifanc Gorau yng Ngŵyl Salzburg 2011. Rhwng 2012 a 2014 bu'n arwain Theatr Opera a Bale Academaidd Gwladwriaeth Novosibirsk fel Cyfarwyddwr Cerdd a Phrif Arweinydd. Ers hydref 2018 mae Rubiķis wedi bod yn Gyfarwyddwr Cerdd Komische Oper Berlin.
Gwaith diweddar: Arweinydd Rusalka (Bolshoi Theatre); Eine Stadt sucht einen Mörder, Cendrillon, Die Tote Stadt (Komische Oper Berlin)