Cwrdd â WNO
Alexander Sitkovetsky
Trosolwg
Ganwyd Alexander Sitkovetsky ym Moscow i deulu â thraddodiad cerddorol hirsefydlog. Perfformiodd ei concerto cyntaf pan oedd yn wyth mlwydd oed, ac yn yr un flwyddyn fe symudodd i’r DU i astudio yn Ysgol Menuhin. Yr Arglwydd Menuhin oedd ei ysbrydoliaeth drwy gydol ei gyfnod yn yr ysgol ac fe wnaethant berfformio gyda’i gilydd ar sawl achlysur. Mae Alexander yn unawdydd gwadd rheolaidd ar deithiau ar hyd a lled y DU, gan gynnwys teithiau gyda Cherddorfa Ffilharmonig Brwsel a Cherddorfa Symffoni St Petersburg. Roedd yn un o sefydlwyr Triawd Piano Sitkovetsky, ac fe enillodd Wobr Mecklenburg Vorpommern Kammermusik gyda’r triawd hwn.