Cwrdd â WNO

Angus West

Prif Chwaraewr yr Adran Corn

Astudiodd Angus yn yr Royal Northern College of Music rhwng 1978-82.

Cyn ymuno â WNO, gweithiodd Angus fel chwaraewyr contract gydag Opera North a The Hallé. Roedd hefyd yn chwaraewr ychwanegol gyda’r Northern Sinfonia, BBC Northern/Philharmonic, Royal Liverpool Philharmonic Orchestra, Royal Scottish National Orchestra a Scottish Opera ymhlith eraill.

Beth mae Angus yn mwynhau fwyaf ydi bod yn rhan o gerddorfa ‘ar gyfer y sgoriau anhygoel rydym yn chwarae’.

I ffwrdd o WNO, mae Angus yn mwynhau cerdded yng nghefn gwlad, darganfod ac yfed gwin da, gwrando ar a pherfformio cerddoriaeth.