Cwrdd â WNO
Barry Banks
Trosolwg
Un o Stoke-on-Trent yw Barry Banks ac hyfforddwyd ef yn y Royal Northern College of Music a’r National Opera Studio. Wedi cysylltiadau hir gydag ENO a’r Metropolitan Opera, mae’n adnabyddus erbyn hyn fel perfformiwr rolau gan Bellini, Rossini a Donizetti. Yn ddiweddar, perfformiodd Banks am y tro cyntaf yn Fienna fel Norfolk yng nghynhyrchiad newydd Amèlie Niermeyer o Elisabetta, Regina d’Inghilterra yn Theater an der Wien.
Gwaith diweddar: Pirelli Sweeney Todd (Opernhaus Zürich); Dug Mantua Rigoletto (Portland Opera); Astrolegydd The Golden Cockerel (Santa Fe Opera)