Cwrdd â WNO
Deborah Colker
Trosolwg
Dechreuodd y Cyfarwyddwr Deborah Colker o Frasil hyfforddiant dawns yn 1979, pan dreuliodd gyfnod o wyth mlynedd yn rhan o grŵp Coringa, Uruguayan Graciela Figeuroa, un o ragflaenwyr dawns gyfoes ym Mrasil. Ym 1994, sefydlodd ei chwmni dawns ei hun a gafodd ganmoliaeth fawr, y Companhia de Dança Deborah Colker, sydd wedi teithio i fwy na 50 o wledydd ledled y byd. Yn 2001, enillodd Deborah Wobr Olivier am Gyflawniad Eithriadol ym maes Dawns. Hi oedd y fenyw gyntaf i greu sioe ar gyfer Cirque du Soleil, Ovo, a hi oedd Cyfarwyddwr Symudiad seremoni agoriadol Gemau Olympaidd yr Haf yn Rio yn 2016. Yn 2018, enillodd y Prix Benois de la Danse am Cão Sem Plumas.