Diweddariad ar y Coronafeirws:Mwy o wybodaeth

Cwrdd â WNO

Edson Burton

Mae Dr Edson Burton yn awdur barddoniaeth, theatr a dramâu radio. Ymhlith ei waith mae'r casgliad barddoniaeth Seasoned (2008). Mae Edson yn fardd a pherfformiwr amryddawn ac mae ei waith yn dathlu gwydnwch. Mae ei waith radio a theatr yn cynnwys Armour of Immanuel (2007), The Chosen One (2009), Deacon (2017, 2019) a chyd-gynyrchiadau yn the Old Vic - Curry Goat & Fish Fingers gyda Miles Chambers, An Abolitionist Returns (2018) ac Anansi & the Grand Prize (2019). Ar hyn o bryd, mae'n cyd-guradu cyfres o ddigwyddiadau mewn partneriaeth â Bristol Old Vic i gofio 40 mlynedd ers Gwrthryfel Sant Paul, ac yn gweithio ar drydedd gyfres o Deacon ar gyfer Radio 4.