Cwrdd â WNO
Eric Ngalle Charles
Trosolwg
Ganwyd Eric Ngalle Charles yr awdur, bardd a dramodydd yn Cameroon, ond mae bellach yn byw yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae'n ymchwilydd PhD yn King’s College London. Yn dilyn cyhoeddi ei hunangofiant, I, Eric Ngalle, dewiswyd Eric gan Jackie Kay fel un o ddeg awdur BAME gorau'r DU. Mae wedi golygu a chyhoeddi Between a Mountain and a Sea, Soft Touch, Nobody’s Perfect, a Festival of the Wolves - casgliad o ddarnau barddonol gan ffoaduriaid, ymfudwyr ac artistiaid brodorol. Perfformiwyd ei ddrama gyntaf, My Mouth Brought Me Here, yn Encampment yn Southbank, Llundain. Cyhoeddwyd ei waith mwyaf diweddar, Homeland, gan Seren Books ym mis Ebrill 2022.