
Cwrdd â WNO
Frederick Brown
Trosolwg
Mae Frederick Brown yn bianydd ac arweinydd o Gernyw. Mae’n Feistr Corws ac Arweinydd Staff yn Opera Cenedlaethol Cymru, ac mae wedi arwain perfformiadau ar ei chyfer o Alice in Wonderland gan Will Todd,The Magic Flute, Don Giovanni, Così fan tutte, The Marriage of Figaro, La traviata, The Barber of Seville a Tosca. Yn flaenorol, bu’n gweithio fel pianydd yn Opera’r Wladwriaeth Hamburg a gweithiodd hefyd fel Arweinydd Cynorthwyol i Ŵyl Gelfyddydol Iford (La traviata, 2013) a Gŵyl Ryngwladol Buxton (Lucio Silla, 2017; Hamlet, 2025). Yn 2024, teithiodd i’r NCPA yn Beijing i gynorthwyo Carlo Rizzi ar La fanciulla del West.
Mae Frederick hefyd yn Gyfarwyddwr Cerdd y Camerata Cymreig, ac mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig a’i fab ifanc.



