Cwrdd â WNO

Gabrielle Dalton

Dylunydd gwisgoedd o Brydain yw Gabrielle Dalton sy'n gweithio ar draws y byd opera a theatr. Derbyniodd ei hyfforddiant yn Middlesex Polytechnic, Prifysgol Llundain gan ennill Diploma mewn Celf Ddramatig. Mae Dalton wedi dylunio gwisgoedd ar gyfer nifer fawr o gynyrchiadau opera i'r Royal Opera House ac Opera North yn ogystal â nifer o gwmnïau eraill ledled Ewrop.

Gwaith diweddar: Dylunydd Gwisgoedd Falstaff (Wiener Staatsoper); La Belle Hélène (Opera national de Lorraine); Coraline (Opéra de Lille)