Cwrdd â WNO
Gareth Chambers
Trosolwg
Mae Gareth Chambers, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Popperface, yn gwthio ffiniau methodoleg coreograffi i greu perfformiadau yn seiliedig ar brofiadau dosbarth gweithiol, gwrywdod cwiar a libertariaeth. Wedi ei ysbrydoli gan allu opera i bortreadu emosiynau nerthol a drama seicolegol, mae’n gobeithio defnyddio ei amser gyda WNO i blannu’r ffurf gelf wrth wraidd ei waith.
Arddangoswyd ei waith yn Awstralia, Berlin, Llundain a Chaeredin.