Cwrdd â WNO

Jake Heggie

Mae operâu Jake Heggie, y rhan fwyaf wedi creu gyda Terrence McNally neu Gene Scheer, wedi cael eu cynhyrchu ar bum cyfandir. Mae hefyd wedi cyfansoddi bron i 300 o ganeuon, yn ogystal â gweithiau siambr, corawl a cherddorfaol. Fel Guggenheim Fellow, mae Heggie wedi gweithio fel mentor ar gyfer y Washington National Opera's American Opera Initiaitve ac mae'n artist gwadd cyson mewn prifysgolion, colegau cerdd a gwyliau ledled UDA a Canada. Mae Dead Man Walking wedi cael ei recordio ddwywaith a chyn bo hir bydd yn derbyn ei 70fed cynhyrchiad rhyngwladol, gan ei wneud yn un o operâu mwyaf poblogaidd ein hamser.

Operâu yn cynnwys: Dead Man Walking, Moby-Dick, It’s A Wonderful Life, If I Were You, Great Scott, Three Decembers, Two Remain