Cwrdd â WNO

James Macdonald

Astudiodd James Macdonald ym Oxford University ac École internationale de théâtre Jacques Lecoq ym Mharis. Rhwng 1992 a 2006, bu’n Gyfarwyddwr Cysylltiol ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Theatr y Royal Court, ac yno fe gyfarwyddodd berfformiadau cyntaf Blasted a 4.48 Psychosis Sarah Kane. Macdonald yw hoff gyfarwyddwr Caryl Churchill ac fe gyfarwyddodd addasiad o A Number ar gyfer y BBC a HBO Films.

Gwaith diweddar: Cyfarwyddwr The Children (Royal Court); Who’s Afraid of Virginia Woolf (National Theatre); Eugene Onegin (WNO)