Cwrdd â WNO
Jaquelina Livieri
Wedi’i geni yn yr Ariannin, mae’r soprano Jaquelina Livieri wedi canu rhannau ym mhrif dai opera De America, gan gynnwys Violetta La traviata yn Teatro Colón yn Buenos Aires, Ópera Nacional de Chile, Gran Teatro Nacional de Perú, Palácio das Artes yn Belo Horizonte a Teatro Municipal de Sao Paulo (Brasil) ac Ópera de Colombia. Mae repertoire Jaquelina yn cynnwys rolau Liù (Turandot), Micaela (Carmen), Musetta (La bohème), Nannetta (Falstaff), Sophie (Werther), Lucia (Lucia di Lammermoor) ac Agnes (Written on Skin). Mae hi wedi cydweithio ag arweinwyr o fri fel Evelino Pido, Nicola Luisotti, Francesco Ivan Ciampa ac Ira Levin.
Gwaith diweddar: ymddangosiad cyntaf yn Teatro Real Madrid fel Offeiriades Aida.