Cwrdd â WNO

Jihoon Kim

Ganed Jihoon Kim yn Ne Corea ac astudiodd ym Mhrifysgol Genedlaethol Seoul a’r Giuseppe Verdi Conservatory ym Milan. Mae wedi ennill sawl gwobr mewn cystadlaethau canu rhyngwladol. Roedd Kim yn aelod o Raglen Artistiaid Ifanc Jette Parker yn 2011-13 ac mae wedi ymddangos mewn dros 200 o berfformiadau mewn gwahanol rannau fel Unawdydd Jette Parker a phrif artist gyda’r Royal Opera House.

Gwaith diweddar: 2il Filwr / 5ed Iddew Salome (Opera North); Sciarrone Tosca, Roberto I vespri siciliani (Royal Opera House); Sarastro Die Zauberflöte (Longborough Festival Opera)