Cwrdd â WNO

Joe Hill-Gibbins

Mae Joe Hill-Gibbins yn gyfarwyddwr theatr ac opera.

Yn flaenorol, bu Joe yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Artistig yn Theatr y Young Vic yn Llundain. Yno, roedd ei gynyrchiadau’n cynnwys A Midsummer Night’s Dream, Measure for Measure, The Changeling, The Glass Menagerie, The Beauty Queen of Leenane ac A Respectable Wedding. Mae ei waith cyfarwyddo hefyd wedi ei weld mewn theatrau eraill yn Llundain, gan gynnwys y National Theatre (Absolute Hell, Edward II), Shakespeare’s Globe (Ghosts - addasu a chyfarwyddo), Almeida Theatre (Little Revolution, The Tragedy Of King Richard The Second) a’r Royal Court, lle dechreuodd ei yrfa broffesiynol (The Village Bike, The Girlfriend Experience).

Mae Joe hefyd wedi cyfarwyddo perfformiadau theatr yn rhyngwladol, gan gynnwys Summerfolk ar gyfer Residenz Munich a Mary Page Marlowe ar gyfer Theater Basel, Greek and Lear yn Hanover, The Marriage of Figaro ar gyfer Wuppertaler ac A View From A Bridge ar gyfer Parco yn Japan.

Mae gwaith opera Joe yn cynnwys: Giustino (ROH); Duke Bluebeard's Castle, The Marriage Of Figaro, Powder Her Face (ENO); a Greek (Edinburgh International Festival a Brooklyn Academy of Music).