Cwrdd â WNO
Julieth Lozano Rolong
A hithau’n soprano o Golombia, graddiodd Julieth Lozano Rolong gyda Gradd Meistr mewn Perfformio Lleisiol a Diploma Artist mewn Opera o’r Royal College of Music, dan diwtoriaeth Dinah Harris. Yn Ysgolor Irene Hanson ac Independent Opera yn Sadler’s Wells, roedd Julieth yn Artist Ifanc 2019/20 yn y National Opera Studio.
Gwaith diweddar: Vixen (The Cunning Little Vixen) ar gyfer Longborough Festival Opera, Zerlina (Don Giovanni) yng Ngŵyl Verbier, Tytania (Midsummer Night’s Dream) ar gyfer Opera al Parque, Colombia, Despina (Così fan tutte) yn yr Ŵyl Gerdd Ryngwladol yn Cartagena, Colombia, Susanna (Le Nozze di Figaro) yn RCM a Norina (Don Pasquale) ar gyfer Random Opera.