Cwrdd â WNO

Kitty Cheung

Prif Ail Ffidil Adrannol

Graddiodd Dr Kitty Cheung o’r Eastman School of Music a’r Guildhall School of Music & Drama lle roedd ei hathrawon yn cynnwys  Lin Yao-Ji, Yau Sing-Yeh, Li Hou-Yi, Ho Hong-Ying, Charles Castleman, David Takeno a Zvi Zeitlin. Kitty oedd Cyngerddfeistr Cyswllt yr Hong Kong Sinfonietta rhwng 2011 a 2017. Mae hi hefyd wedi perfformio gyda'r London Symphony Orchestra, Rochester Phillharmonic Orchestra, Hong Kong Philharmonic Orchestra a’r Hong Kong New Music Ensemble. Mae hi’n un o sylfaenwyr y Romer String Quartet, Contrast Trio a'r LENK Quartet. Mae hi’n rhoi gwersi ffidil yn Hong Kong Baptist University, The Education Univeristy of Hong Kong, ac mae wedi cynnal cyfnodau preswyl gyda’i holl grwpiau siambr yn The Chinese University of Hong Kong. Mae Kitty hefyd wedi ymddangos fel unawdydd gyda'r Hong Kong Sinfonietta a’r Hong Kong City Chamber Orchestra.