Cwrdd â WNO

Leslie Travers

Hyfforddwyd Leslie Travers yn y Wimbledon School of Art ac mae'n ddylunydd set a gwisgoedd rhyngwladol sydd wedi ei leoli yn Llundain. Mae ei waith helaeth - sydd wedi cynnwys cynyrchiadau opera, dawns, cerdd a drama - wedi addurno llwyfannau mwyaf mawreddog y byd. Ymhlith ei wobrau diweddar mae Gwobr Cynhyrchiad Gorau What’s On Stage am I Puritani yn ogystal â Digwyddiad Opera'r Flwyddyn a Gwobr Best Anniversary Production yr International Opera Awards am Grimes On The Beach

Gwaith diweddar: Dylunydd Set Francesca da Rimini, Manon Lescaut (Teatro alla Scala); Die Meistersinger von Nürnberg (Leipzig); Dylunydd Set a Gwisgoedd Katya Kabanova (Scottish Opera a Magdeburg)