
Lidiya Yankovskaya
Mae Lidiya Yankovskaya yn arweinydd sydd ag ystod bwerus - o Verdi a Wagner i Price a Prokofiev - a synnwyr cryf o gerddoriaeth glasurol fel celfyddyd fyw, ymatebol. Mae ei harweinyddiaeth feiddgar, gydweithredol wedi llywio datblygiad dwsinau o berfformiadau agoriadol byd-eang, gan gynnwys dros ugain o operâu newydd, ac mae wedi dod ag egni newydd i berfformiadau gyda cherddorfeydd a chwmnïau opera blaenllaw ledled y byd.
Fe gafodd Lidiya effaith leol drawsnewidiol fel Cyfarwyddwyr Cerddoriaeth Chicago Opera Theater, ac yn ddiweddar mae wedi arwain cynyrchiadau clodfawr yn Staatsoper Hamburg, ENO, Santa Fe Opera, Houston Grand Opera, Washington National Opera ac Opera Australia.
Ar y llwyfan cyngherddau, mae ei gwaith proffil uchel yn cynnwys ymddangosiadau gyda Cherddorfeydd Ffilharmonig Los Angeles, Efrog Newydd a Llundain; cyngherddau gyda Cherddorfeydd Symffoni Atlanta, Chicago, Dallas a Chenedlaethol; ac Anthracite Fields gan Julia Wolfe yn Carnegie Hall.
