Cwrdd â WNO
Mark S Doss
Trosolwg
Fe anwyd Mark S Doss yn Cleveland, Ohio. Dechreuodd hyfforddi fel offeiriad Catholig yng Ngholeg Sant Joseff, Indiana, cyn astudio llais ym Mhrifysgol Indiana. Ym 1986, ymunodd â’r Metropolitan Opera ac enillodd y Gystadleuaeth Verdi Ryngwladol. Ers hynny, mae wedi canu sawl rôl ym mhrif dai opera’r byd. Enillodd Doss Wobr Grammy ym 1993 am y Recordiad Opera Gorau am ei berfformiad o Semele gan Handel, ac yn 2011, derbyniodd Wobr Adloniant Planet Africa.
Gwaith diweddar: Alfio Cavalleria rusticana (Royal Opera House); Daland Der Fliegende Holländer (Dallas Opera); y brif rôl yn Rigoletto a Scarpia Tosca (WNO); Shell Shock gan Nicholas Lens yn The Philharmonie de Paris.