
Cwrdd â WNO
Maxine Braham
Cyfarwyddwr Symudiad Roberto Devereux
Cafodd y coreograffydd a’r cyfarwyddwr o Loegr, Maxine Braham, ei hyfforddiant yn y London Contemporary Dance School. Fel dawnswraig perfformiodd yn rhyngwladol gyda chwmnïau gan gynnwys DV8, Second Stride, English National Opera a The Royal Opera. Mae ei gwaith coreograffiaeth a symudiad opera yn cynnwys Un ballo in Maschera (Metropolitan Opera, Efrog Newydd), Billy Budd (Deutshe Oper Berlin) ac A Midsummer Night’s Dream (Mariisnky Theatre).
Gwaith diweddar: Coreograffydd Lucia di Lammermoor (ENO); War Requiem (Opéra de Lyon); Jenůfa (ENO)



