Cwrdd â WNO

Melody Squire

Mae'r coreograffydd o America, Melody Squire yn adnabyddus am greu gwaith sy'n ysgogol yn weledol yn ogystal â'i gallu cynhenid i adrodd straeon. Mae ei doniau ar draws genres yn ei gwneud yn goreograffydd poblogaidd, gan weithio'n helaeth ym myd ffilm, teledu a theatr. Fel perfformiwr, mae Melody wedi gweithio gyda nifer o artistiaid gan gynnwys Madonna, James Blunt, Shah Rukh Khan a fideo promo pop ar gyfer Beyoncé. Melody yw sylfaenydd a chyfarwyddwr artistig Sol Dans Company, cwmni dawns gyfoes o fri, wedi'i leoli yn Llundain.

Gwaith diweddar: Coreograffydd i Fila, Selfridges, y Corrs, SYTYCD y DU a'r sioe gerdd Tiger Bay