Diweddariad ar y Coronafeirws:Mwy o wybodaeth

Cwrdd â WNO

Miles Chambers

Mae Miles Chambers yn sylwebydd diwylliannol barddonol blaenllaw a phoblogaidd. Mae'n Fardd Perfformio rhyngwladol, yn Bencampwr Slam, yn Ddramodydd ac ef oedd Bardd Dinas cyntaf Bryste. Mae wedi gweithio mewn barddoniaeth a pherfformio o fewn teledu a radio, fideo corfforaethol, Cynghorau Dinas, Ysgolion a sefydliadau Cymunedol. Fel darlledwr, yn ddiweddar mae Miles wedi ysgrifennu a chyflwyno ar gyfer cyfres Civilizations y BBC ac wedi'i gomisiynu gan BBC Radio 4 ac ymddangos mewn sawl un o’u rhaglenni gan gynnwys Only Artist, Poetry Please a Poets in a Balloon. Gellir gweld ei farddoniaeth ledled Bryste, o berfformiad fideo yn M-Shed, arddangosfa yn We The Curious ac ar waliau'r Bristol Old Vic.