Cwrdd â WNO

Pritam Singh

Mae Pritam Singh yn gerddor medrus mewn cerddoriaeth glasurol Indiaidd. Mae'r perfformiwr tabla byd enwog wedi derbyn nifer o wobrau yn cynnwys cerddor gorau'r DU ac am gyfraniad arbennig i gerddoriaeth glasurol Indiaidd ym Mhrydain. Mae wedi teithio ledled y byd gydag amrywiaeth o artistiaid o genres cerddoriaeth amrywiol, gan recordio dros 100 o albymau ac ar gyfer radio a theledu. Mae Pritam yn cyflwyno hyfforddiant DPP i athrawon cerdd a gweithdai mewn ysgolion ar gyfer gwasanaethau cerdd ledled y DU. Mae wedi ysgrifennu a chyhoeddi ‘Tabla Tutor’, astudiaeth gynhwysfawr o'r tabla, ynghyd â DVD.