
Rhodri Prys Jones
Trosolwg
Mae Rhodri, y tenor o Gymru, yn hanu o Lanfyllin yng nghanolbarth Cymru.
Ymddangosodd Rhodri yn ei berfformiad operatig proffesiynol cyntaf yn 2018 gydag WNO fel Fyodor yn War and Peace, ac yn ddiweddarach perfformiodd ran Michelis yn The Greek Passion gydag Opera North yn 2019. Ei hoff ddigwyddiad operatig yw’r adeg pan berfformiodd ei brif rôl gyntaf gydag WNO, gan chwarae rhan Ŝteva Buryja yn Jenůfa yn 2022. Y flwyddyn ganlynol, ymddangosodd yn ei rôl gyntaf fel Ernesto yn Don Pasquale gydag Irish National Opera.
Y tu hwnt i WNO, mae Rhodri yn olffiwr brwd, mae’n aelod gydol oes o Glwb Pêl-droed Wrecsam, ac mae’n ŵr ac yn dad i ddau o fechgyn, sef Mabon a Ted.
Rolau diweddar: Chwilyswr Candide, Gwerthwr Caneuon Il trittico, Americanwr 1 | Actor Teithiol | Gondolïwr 3 Death in Venice (pob un gydag WNO).
