Diweddariad ar y Coronafeirws:Mwy o wybodaeth

Cwrdd â WNO

Shreya Sen-Handley

Mae'r cyn-newyddiadurwr a chynhyrchydd teledu Shreya Sen-Handley yn awdur dau lyfr gyda HarperCollins, y casgliad straeon byrion Strange a gyhoeddwyd yn ddiweddar, a'r arobryn Memoirs of My Body. Mae hi hefyd yn golofnydd ar gyfer cyfryngau rhyngwladol, gan ysgrifennu ar gyfer y National Geographic, CNN a The Guardian ymhlith eraill. Mae hi'n athrawes ysgrifennu creadigol, darlunydd, ac yn awr yn libretydd i Opera Cenedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd mae hi'n ysgrifennu ei thrydydd llyfr ar gyfer HarperCollins, llyfr teithio, ochr yn ochr â'i cholofn fisol newydd ar gyfer dau o brif bapurau newydd Asia, yr Asian Age a'r Deccan Chronicle.