Cwrdd â WNO

Thomas Verity

Prif Chwaraewr Adran y Clarinét

Magwyd y clarinetydd Thomas Verity yn Sheffield ac astudiodd am ei raddau israddedig ac ôlraddedig yn y Royal Northern College of Music a’r University of Manchester. Ymunodd Thomas â Cherddorfa WNO fel Prif Glarinét yn 2019, a gyda’r gerddorfa mae ei uchafbwyntiau yn cynnwys perfformiadau yng Ngŵyl Gwanwyn Prag ac yn Dubai. Cyn hyn, roedd yn Glarinét Cyswllt gyda’r Royal Philharmonic Orchestra ac roedd yn aelod o’r Royal Liverpool Philharmonic Orchestra am saith mlynedd.

Yn ddiweddar fe sefydlodd Thomas ei gyfres cyngerdd ei hun The Chamber Stiwdio gyda’i wraig Róisín (sy’n Brif Chwaraewr Ail Feiolin Cerddorfa WNO). Mae Thomas hefyd yn aelod sefydlol o Klezmer-ish, pedwarawd clasurol sy’n archwilio cerddoriaeth o ar draws y byd, ac ymhlith eu hymddangosiadau cyngerdd mae Bridgewater Hall ym Manceinion, Philharmonic Hall yn Lerpwl, y Tung Auditorium a The Green Note yn Llundain. Mae’r grŵp wedi rhyddhau dau albwm ac wedi perfformio’n fyw fel artistiaid gwadd ar raglen World on Three BBC Radio 3.