Cwrdd â WNO
Tianyi Lu
Trosolwg
Tianyi Lu yw Arweinydd Preswyl y Stavanger Symphony Orchestra yn Norwy, Arweinydd Preswyl Benywaidd WNO, Prif Arweinydd y St Woolos Sinfonia yn y DU, ac yn ddiweddar roedd hi’n Gymrawd Dudamel y Los Angeles Philharmonic ac Arweinydd Cynorthwyol y Melbourne Symphony Orchestra. Yn 2020 enillodd y Wobr Gyntaf yn y Sir George Solti International Conductors’ Competition yn Frankfurt a’r International Conducting Competition Guido Cantelli yn yr Eidal. Mae ei huchafbwyntiau diweddar yn cynnwys cyngherddau gyda’r CBSO, Noord Nederlands Orkest, Royal Scottish National Orchestra, a Seattle Symphony.
Digwyddiadau i ddod: Aalto Theater Essen, Seoul Philharmonic, Helsinki Philharmonic, Malmö Symphony Orchestra