

Corws y Nadolig
Trosolwg
Bydd Corws Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio ochr yn ochr â chantorion o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i gyflwyno noson gyffrous o ganu operatig yng nghanol y ddinas. Mae’r arddangosfa wych hon yn cyfuno’r lleisiau torfol hyn i berfformio detholiad Nadoligaidd o garolau, opera, theatre gerddorol a mwy, dan arweiniad Meistr y Corws WNO Freddie Brown a Chyfarwyddwr Cerdd RWCMD, Tim Rhys-Evans.