Gwerthiant Gwisgoedd a Phropiau

Mae'r digwyddiad yma wedi gorffen

Trosolwg

Dewch yn berchen ar ddarn o hanes WNO. 

Camwch i’r byd y tu ôl i’r llen wrth i Opera Cenedlaethol Cymru agor ei storfeydd gwisgoedd a phropiau ar gyfer gwerthiant cyhoeddus prin yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. O ddillad wedi'u creu â llaw i bropiau a dodrefn llawn cymeriad, mae hwn yn gyfle unigryw i fynd ag eitemau adref sydd wedi addurno ein llwyfannau dros ddegawdau o adrodd straeon. 

P’un a ydych wrth eich bodd ag operâu ers tro byd, yn berson sy’n chwilio am hen drysorau, neu’n syml yn rhywun sy’n gwerthfawrogi creadigaethau hyfryd, byddwch yn dod o hyd i rywbeth i danio'ch dychymyg. Gyda 2026 yn nodi 80 mlynedd ers sefydlu WNO, mae’r gwerthiant arbennig hwn yn dathlu’r saernïaeth, y creadigrwydd a’r cymeriadau a lywiodd ein hanes. 

Porwch drwy gannoedd o wisgoedd a thrugareddau o amrywiaeth eang o gynyrchiadau, gan gynnwys Turandot, Don Giovanni, Die Fledermaus, Macbeth a llawer mwy, pob darn gyda’i stori ei hun i’w hadrodd. O ddarnau trawiadol i fargeinion ymarferol, mae yna rywbeth i gasglwyr, crefftwyr, myfyrwyr, steilwyr, ac unrhyw un sydd â llygad am bethau anghyffredin. 

Mae mynediad am ddim, gyda chyfnodau mynediad cynnar i Aelodau WNO a sesiynau pwrpasol i brynwyr masnach.  

Dewch draw atom am gyfle unigryw i archwilio, darganfod a mynd adref â darn o hud y byd opera. 


Lleoliadau a Thocynnau

Defnyddiol i wybod

Nid oes angen tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn


Mynediad â blaenoriaeth ar 6 
Chwefror 2026 


Aelodau WNO 9.30am - 11.30am, 5 - 7pm
Cysylltiadau’r diwydiant 12pm - 5pm


Rhaid i brynwyr masnach ddod ag ID i ddangos ble maen nhw’n gweithio


Mynediad cyffredinol 7 Chwefror 2026
Mynediad: 11am i 7pm