Fauré Requiem WNO

Mae'r digwyddiad yma wedi gorffen

Trosolwg

Mae'r arweinydd Ryan McAdams yn arwain rhaglen o fyfyrdod a choffâd. Dewch i glywed Corws a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru'n perfformio campwaith teimladwy Requiem gan Fauré, gyda Fflur Wyn (soprano) a Gareth Brynmor John (bariton). Bydd cantorion o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ymuno gyda Chorws WNO ar y llwyfan.

Mae hanner cyntaf y rhaglen yn cynnwys Cyfres Gerddorfaol lawen Pulcinella gan Stravinsky. Wedi'i gwblhau ym 1920, mae'r addasiad bywiog hwn o Pulcinella yn dathlu themâu cerddorfaol mwyaf cofiadwy'r ballet.

Mae Cerddorfa WNO yn parhau ei harchwiliad o gerddoriaeth Igor Stravinsky mewn tymor operatig sydd hefyd yn cynnwys Oedipus Rex.

Lleoliadau a Thocynnau