
Home Alone mewn cyngerdd
,Trosolwg
Yn ffefryn go iawn dros yr ŵyl, mae’r clasur comedi annwyl hwn yn cynnwys sgôr gerddorol swynol a hyfryd gan y cyfansoddwr enwog John Williams, wedi’i pherfformio’n fyw i gyd-fynd â’r ffilm gan gerddorfa WNOCC a chôr.
Mae Macaulay Culkin yn serennu fel Kevin McCallister, bachgen wyth oed sy’n cael ei adael ar ôl yn ddamweiniol pan fydd ei deulu’n gadael am eu gwyliau Nadolig. Rhaid iddo amddiffyn ei gartref rhag dau leidr trwsgl. Gyda digon o hiwmor a chynhesrwydd, mae Home Alone yn adloniant Nadoligaidd i’r teulu cyfan!