Anna Bolena Donizetti
Archived: 2013/2014Trosolwg
Anne yw’r ferch Boleyn wreiddiol. Ychydig iawn o ffigyrau yn hanes Prydain sydd wedi cael lle mor flaenllaw â hi yn nychymyg awduron, arlunwyr a chyfarwyddwyr ffilmiau.
Mae ymdrech Donizetti i ailddychmygu dyddiau olaf Anne yn llys cynllwyngar Harri’r Wythfed yn un teimladwy. Mae’n bortread o rywun diniwed yng nghanol nythaid o wiberod. Fe’i cewch hi’n anodd peidio â phoeni’n ddirfawr amdani.
Bydd cynhyrchiad y Cyfarwyddwr Alessandro Talevi yn rhoi sylw i bersonoliaethau ar draul pasiant, ac am bersonoliaethau ydyn nhw! Mae Anna Bolena yn em fywiog o opera bel canto sy’n llawn ariâu ingol a deuawdau gwefreiddiol sy’n disgwyl i chi eu darganfod.
Cefnogir gan brif rodd gan y ‘Swansong Project’ Peter Moores Foundation a Syndicate Bel Canto WNO.
Defnyddiol i wybod
Cynhyrchiad newydd
Synopsis
Mae gwŷr llys yn trafod cyflwr y materion brenhinol: mae seren y Frenhines Anne yn prysur syrthio ers i Frenin Harri’r VIII syrthio mewn cariad â dynes arall. Mae’r Frenhines yn cyfaddef wrth ei boneddiges breswyl, Jane Seymour, ei bod yn poeni, ac yn cofio’n ôl am hapusrwydd ei chariad cyntaf.
Mae cydwybod Jane, sef cariad newydd y Brenin heb yn wybod i Anne, yn pigo’n arw iawn, ond mae’n sylweddoli ei bod yn rhy hwyr iddi droi’n ôl pan mae’r Brenin yn datgan ei gariad tuag ati, gan addo ei phriodi ac addo iddi’r bri mawr sydd ynghlwm wrth fod yn wraig i frenin.
Mae brawd Anne, yr Arglwydd Rocheford, yn synnu o gyfarfod yr Arglwydd Percy, cyn-gariad y frenhines. Mae Percy wedi cael ei alw’n ôl o alltudiaeth gan y Brenin, sy’n cyrraedd yn awr gyda chiwed hela, gydag Anne a’i merched yn ei ddilyn. Mae’r Brenin wedi trefnu dychweliad Percy fel magl i’w wraig ac mae’n gorchymyn bod swyddog yn ysbïo ar y ddau.
Mae’r gwas, Smeaton, sydd mewn cariad â’r Frenhines, ar ei ffordd i’w hystafelloedd hi i ddychwelyd portread bychan iawn ohoni y mae wedi’i ddwyn. Mae’n cuddio pan mae Anne yn ymddangos gyda Rocheford, sy’n darbwyllo ei chwaer i dderbyn Percy, sydd dal mewn cariad â hi. Mae Anne yn cyfaddef nad yw’r Brenin yn ei charu mwyach ond mae’n dweud ei bod hi’n ffyddlon iddo ef o hyd. Mae’r Brenin yn cyrraedd yr ystafell yn annisgwyl ac mae Anne, Percy a Smeaton yn cael eu harestio.
Mae Anne wedi cael ei charcharu ac mae Jane yn ceisio ei darbwyllo i gyfaddef ei chariad at Percy, fel bod y Brenin yn gallu ailbriodi. Mae Anne yn gwrthod, ac yn melltithio’r wraig a fydd yn ei holynu. Mae Jane yn cyfaddef mai hi yw’r wraig honno.
Mae Smeaton wedi tystio’n ffug i fod yn gariad y Frenhines, gan gredu y byddai ei gyfaddefiad yn achub bywyd Anne. Mae Anne a Percy yn cael eu dwyn ger bron y cyngor. Mae Percy yn honni ei fod ef ac Anne yn briod yn llygaid y nefoedd. Mae Jane yn pledio ar y Brenin i achub bywyd Anne ond mae’n cael ei diystyru. Cyhoeddir dedfryd y cyngor: mae’r briodas frenhinol yn cael ei diddymu a bydd Anne yn cael ei dienyddio, ochr yn ochr â’i chyd-droseddwyr.
Mae Anne mewn gwewyr yn dychmygu ei bod hi'n ddydd ei phriodas ac mae'n cofio ei chariad yn ferch ifanc at Percy. Mae cyd-garcharorion iddi'n cael eu hebrwng i mewn ati ac, wrth glywed synau dathlu, mae Anne yn sylweddoli bod priodas newydd y Brenin yn anochel ac mae’n ei felltithio ef a’i wraig newydd cyn cael ei harwain i ffwrdd i gael ei dienyddio.