Cysur

Prosiect sy’n pontio’n cenedlaethau yw Cysur, a gynlluniwyd i gyfoethogi bywydau pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ddementia a chodi ymwybyddiaeth o'r clefyd o fewn plant ysgol.

Gyda thua 48,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru, mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i weithio o fewn cymunedau ledled Cymru i gynnig lle i bobl ddod ynghyd a chael hwyl gyda ffrindiau a theulu drwy ganu cymunedol.

Mae Côr Cysur yn gymuned gefnogol ac yn cynnig cyfle wythnosol i aelodau gymdeithasu, ail-fyw atgofion melys a gweithio trwy ystod eang o gerddoriaeth boblogaidd, alawon gwerin, emynau, ac unrhyw beth arall sy'n mynd â'u ffansi. Mae'r sesiynau awr yma wedi eu teilwra i allu'r aelodau ac yn cynnwys gemau hwyliog i gynhesu’r ymennydd a'r llais a dysgu cerddoriaeth manwl, y cyfan wedi’i gyflwyno mewn amgylchedd hamddenol a chefnogol. 


Mae'n amgylchedd cynnes a chefnogol, rhywbeth i'w drysori

Aelod o Gôr Cysur


Mae'n awr o lawenydd pur

Aelod o Gôr Cysur

Mae codi ymwybyddiaeth cyn bwysiced â rhoi cymorth i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ddementia. Trwy raglen o weithdai, rydym yn cyflwyno plant ysgol i ddementia, gan gynyddu eu hempathi a'u dealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i fyw gyda'r clefyd, sut gall cymdeithas gefnogi pobl sy'n byw gyda’r clefyd, ochr yn ochr â datblygu sgiliau ysgrifennu caneuon a pherfformio gyda hwyluswyr WNO a threulio amser gyda thrigolion lleol sy'n byw gyda'r clefyd.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chynhyrchydd WNO Jennifer Hill ar Jennifer.Hill@wno.org.uk