

Blaze of Glory!
–Trosolwg
Cymru, cloddio glo a chanu corawl
Byddwch yn barod am antur egniol a chalonogol yn Blaze of Glory! - stori ddyrchafol wedi’i osod yng Nghymoedd De Cymru yn y 1950au. Ar ôl trychineb cloddio, mae grŵp bach o lowyr yn mynd ar antur gerddorol drwy ffurfio Côr Meibion er mwyn codi calonnau - a’r to - wedi trychineb gloddio. Dan arweiniad eu Meistr Corws arwrol a chefnogaeth y merched cryf sy'n sefyll ochr yn ochr â nhw, mae'r dynion yn mynd ar antur gerddorol: yn herwgipio iodlwr, yn cymryd rhan mewn trafodaethau hanesyddol ar draws yr Iwerydd gyda Paul Robeson ac yn arwain y ffordd i’r Eisteddfodau a thu hwnt.
Mae Blaze of Glory! yn ddathliad o Wlad y Gân ac yn cydnabod y gall ysbryd cymunedol oresgyn adfyd. Cewch glywed alawon traddodiadol o Gymru ynghyd â synau a cappella o'r 1950au, opereta, gospel a band mawr, wrth i'n band gwrol o gerddorion lindi hopian eu ffordd at ogoniant. Ymunwch â'n dynion mewn blasers, am berfformiad i godi calon ac i godi gwên.
The Stage
The Timeslaugh-out-loud funny




The Telegraph
The Guardianhits all the right notes
Pricing
O dan 16 mlwydd oed
£10 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Defnyddiol i wybod
Tua dwy awr a 25 munud gydag un egwyl
Cenir yn Saesneg gyda uwchdeitlau yn Saesneg a Chymraeg
Yn ymuno â ni yng Nghaerdydd?
Manteisiwch ar 20% oddi ar lety a chynigion bwyd cyn sioe gan ein partner gwesty dewisol, Future Inns
Synopsis
Mae Blaze of Glory! yn ddathliad o’r gorau o blith holl nwyddau Cymru, sef y Côr Meibion. Wedi’i leoli yn y 1950au, mae’n dilyn tynged grŵp o lowyr sy’n ffurfio côr fel ateb i’w problemau, i wella trawma trychineb diweddar yn y pwll glo.
Mae Dafydd Pugh, fforman y pwll a chyn gôr-feistr, yn eistedd yn y clwb cymdeithasol, yn hel meddyliau. Mae’r awyrgylch yn ddigalon gan fod canlyniadau trychineb y pwll ym 1953, a arweiniodd at golli nifer o ddynion, yn dal i atseinio o gwmpas y dref. Mae Emlyn, sef glöwr ifanc, yn magu plwc i berswadio Mr Pugh i gychwyn clwb Glee, i arwain y dynion mewn cân fel yr oedd wedi gwneud o’r blaen. Ar ôl llawer o wrthwynebiad, mae Mr Pugh yn ildio i berswâd o du’r dynion a’r merched, a gwelir ffurfio côr newydd, neu Glee, gyda Mr Pugh wrth y llyw, a Miss Price yn cyfeilio. Maen nhw’n cytuno i roi pob gewyn ar waith i gystadlu yn yr Eisteddfod leol a chyrraedd y brig.
Ar ôl canfod mai’r darn gosod yw Le Tyrol gan Ambroise Thomas, maen nhw’n taro ar y syniad o botsio Bryn Bevan, bragwr o Dreorci a oedd wedi treulio amser yn ddiweddar yn Awstria ac wedi dysgu’r grefft o iodlo. Gyda chymorth y merched o’r ffatri ddefnyddiau, maen nhw’n cipio Bryn o grafangau eu prif gystadleuydd o blith corau Treorci, ac yna’n mynd i’r afael â’u hymarferion o ddifrif. Er eu holl ymdrechion, datgelir eu dichell a chânt eu trechu.
Mae Miss Price, sydd bellach yng ngafael carwriaeth nwydwyllt, ond annisgwyl, â Mr Pugh, yn gwrthod gadael iddyn nhw roi’r gorau iddi. Gyda’u llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a’u balchder yn eu blasers arbennig o waith gofalus merched y ffatri ddefnyddiau, maen nhw’n troi eu sylw at eu gornest nesaf. Mae Eisteddfod y Glowyr ym Mhorthcawl yn bwysicach fyth oherwydd presenoldeb arfaethedig neb llai na’r anfarwol Paul Robeson – eicon cerddorol i’r côr a chefnogwr achos y glowyr yng Nghymru. Mae gwefr y disgwyliad hwn yn cyffwrdd Anthony yn fwy na neb, â hwnnw’n Americanwr Affricanaidd sydd wedi ymgartrefu yn y dref, ac yn aelod allweddol o’r Glee.
Ceir newydd trychinebus wrth baratoi i fynd i mewn i’r neuadd. Mae Emlyn, sef eu prif denor erbyn hyn, yn cynnig ei ymddiswyddiad yn dilyn cynnig gan gorws opera Covent Garden, ac mae Mr Pugh yn cael hysbysiad o fwriad i gau’r pwll.
Mewn blynyddoedd i ddod, mae Miss Price yn cymryd lle Mr Pugh fel arweinyddes newydd y côr, y ddynes gyntaf i arwain côr meibion. Gwrthod mae hi i ddechrau, ond ar ôl cael trefn ar bawb a’u hymfyddino, mae’n llwyddo i’w harwain i ogoniant y Corws Lleisiau Unedig yn Llundain.