Ysgolion, Colegau a Phrifysgolion

Opera a Cherddoriaeth Glasurol yw rhai o’r adnoddau gorau i helpu tanio dychymyg a chreadigrwydd ymysg pobl ifanc, ac maent yn gatalyddion gwych i ymgysylltu dysgu yn yr ystafell ddosbarth.  

Mae WNO yn cynnig ystod eang o adnoddau i gefnogi athrawon ac addysgwyr, yn ogystal â gweithdai canu, cerddoriaeth a digidol (animeiddiad VR/AR) mewn ysgolion.  Mae gweithdai yn cael eu harwain gan ein cantorion opera proffesiynol, chwaraewyr cerddorfaol ac animateurs a gall bob un gael eu haddasu ar gyfer anghenion eich ysgol neu SEND o Gyfnod Allweddol 1 i 4.   




Am fwy o wybodaeth am ein rhaglen ysgolion, cysylltwch â schools@wno.org.uk


Prif Gefnogwr - Prosiectau ac Ymgysylltu