Lles gyda WNO
Wedi’i darparu mewn partneriaeth â Byrddau Iechyd GIG Cymru, mae Lles gyda WNO yn rhaglen ganu ac anadlu ar gyfer pobl sydd â COVID Hir yng Nghymru.
Datblygwyd y rhaglen chwe wythnos arlein hon gyda gweithwyr meddygol proffesiynol y GIG i gefnogi pobl sy’n fyr eu gwynt ac yn orbryderus ac sydd wedi parhau i ddioddef am gyfnod hirach ar ôl symptomau cychwynnol feirws COVID-19.
Cyflwynir y rhaglen, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2021, mewn gosodiad anffurfiol, hamddenol lle mae cyfranogwyr yn cael eu gwahodd i archwilio technegau canu a pherfformio a ddefnyddir yn Opera Cenedlaethol Cymru, gyda’r nod o gefnogi gwell rheolaeth anadl, gweithrediad yr ysgyfaint, cylchrediad ac ystum. Hyd yma, mae dros 100 o gyfranogwyr wedi cwblhau’r rhaglen, gyda nifer ohonynt hefyd yn parhau â’u cynnydd drwy fynychu sesiynau galw heibio sy’n cael eu cynnig yn hirdymor gan y Cwmni.
Cyfranogwr Lles gyda WNOMae’r rhaglen hon yn llygedyn o haul yn y salwch llwm ac unig hwn
Cyfranogwr Lles gyda WNORwyf wedi teimlo’n agos at ddagrau mewn ffordd dda. Rwyf mewn man lle mae pobl yn gofalu amdanaf ac yn dilysu fy mhrofiad. Mae'n ddull gwych. Nid yw’n teimlo’n feddygol, mae’n teimlo fel eich bod yn twyllo pobl i wneud rhywbeth sy’n gwneud daioni drwy gael hwyl.
Cyfranogwr Lles gyda WNOHeb Lles gyda WNO, mi fyddwn i wedi bod yn yr ysbyty. Rhoddais gynnig ar yr ymarferion anadlu pan oedd fy ocsigen wedi mynd yn beryglus o isel. O fewn hanner awr roeddwn yn gallu gwneud y dechneg hymian a dod allan o'r parth perygl gan osgoi mynd i’r ysbyty. Roedd gwybod y gallwn wneud hynny a chynorthwyo fy hun yn deimlad rhyfeddol.
Rydym yn derbyn atgyfeiriadau uniongyrchol o Wasanaethau COVID Hir y GIG o holl Fyrddau Iechyd Cymru:
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Chynhyrchydd WNO April Heade ar wellness@wno.org.uk
Cefnogir y rhaglen Lles gyda WNO, gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy Gronfa Loteri’r Celfyddydau, Iechyd a Lles ac mae hi wedi’i chreu mewn ymgynghoriad ag English National Opera yn seiliedig ar eu prosiect ENO Breathe gwreiddiol. Datblygwyd y rhaglen beilot gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac Opera Cenedlaethol Cymru. Mae sesiynau'r rhaglen Lles gyda WNO wedi cael eu cyd-ddylunio ac yn cael eu harwain gan Arbenigwyr Lleisiol WNO Zoë Milton-Brown, Jenny Pearson a Kate Woolveridge MBE.