Boulevard Solitude Henze
Archived: 2013/2014Trosolwg
Mae Armand a Manon heb yr un geiniog ond maent mewn cariad. Buan y bydd byd creulon cyfalafiaeth yr 20fed ganrif yn chwalu eu hapusrwydd.
Mae diweddariad grymus Henze yn y 1950au o stori Manon yn goctel cerddorol llesmeiriol o jazz, opera’r 19eg ganrif ac arddulliau’r 20fed ganrif.
Mae'r cyfarwyddwr Theatr, Opera a Ffilm mawr ei glod Mariusz Trelinski yn gosod ei gynhyrchiad yn erbyn cefnlen sinematig hudolus a chyfareddol o gymdeithas Ewrop ar ôl y rhyfel lle mae temtasiwn a chwant ym mhobman.
Dyma gyfle prin i brofi un o operâu mwyaf y ganrif ddiwethaf. Ymunwch â ni am opera ar ei mwyaf pwerus a hudolus.
The TimesBoulevard Solitude is better than perfect
The Financial TimesA deserved triumph for WNO
Defnyddiol i wybod
Nodwch fod delweddau yn fflachio ar sgriniau digidol trwy gydol y cynhyrchiad. Does dim effaith strobio.
Synopsis
Golygfa Un
Mae Armand des Grieux a’i gyfaill Francis yn yr orsaf drenau. Mae Manon yn cael ei hebrwng i ysgol berffeithio gan ei brawd Lescaut. Mae Armand a hithau yn dechrau sgwrsio ac yn darganfod atyniad at y naill a’r llall yn syth. Mae Manon yn penderfynu mynd gydag Armand. Mae Lescaut yn gwylio’r ddau’n ymadael.
Golygfa Dau
Mae Armand a Manon yn hapus gyda’i gilydd ond does ganddyn nhw ddim arian. Mae Lescaut yn ceisio dwyn perswâd ar Manon i ddewis cariad cyfoethog - mae ganddo rywun mewn golwg fyddai’n ei chefnogi hi ac yn cynnig ffynhonnell arian iddo yntau hefyd. Mae’n dweud wrthi fod yn rhaid iddi fod yn galon galed i lwyddo mewn bywyd, ac y dylai hi ddewis rhwng moethusrwydd a thlodi.
Golygfa Tri
Erbyn hyn, mae Manon yn feistres i Monsieur Lilaque, ac wedi ei difetha. Mae hi’n ysgrifennu at Armand, ac yn dweud wrtho gymaint mae hi’n ei golli. Mae Lescaut yn gandryll ei bod yn meddwl am ei hen gariad yn hytrach nag am ei noddwr presennol. Mae mân fusnesau Lescaut yn prysur fynd o chwith, ac mae’n ceisio dwyn arian. Mae Lilaque yn darganfod hyn ac yn taflu’r ddau allan.
Golygfa Pedwar
Mae Armand, Francis a myfyrwyr eraill yn astudio barddoniaeth Ladin erotig gan Catullus. Mae meddwl Armand ar Manon, gan na all anghofio amdani. Pan ddywed Francis wrtho am yr arian a gafodd ei ddwyn, mae Armand yn gwrthod credu fod Manon yn euog. Adunir Manon ac Armand am y tro.
Golygfa Pump
Mae Manon wedi gadael Armand eto, ac mae’n cymryd cyffuriau er mwyn ceisio anghofio amdani. Mae Lescaut yn chwilio am ei chwaer - mae ganddo gleient newydd iddi, sef mab Lilaque. Cyrhaedda Manon, gan geisio tawelu’r Armand gwyllt, ond mae’n methu. Mae hi’n gadael gyda’r Lilaque ifanc, ond yn anfon neges at Armand yn gofyn iddo ei chyfarfod yn nes ymlaen.
Golygfa Chwech
Mae Manon ac Armand gyda’i gilydd yn rhandy’r Lilaque ifanc. Daw Lescaut draw i rybuddio Armand i adael cyn iddo gael ei ddarganfod yno. Mae Lescaut yn penderfynu dwyn darlun oddi ar y wal, ond mae dyfodiad Monsieur Lilaque yn tarfu arno cyn iddo gael cyfle i wneud. Mae Manon yn ceisio tynnu sylw’r Monsieur, ond mae’n darganfod Armand a Lescaut yn eu cuddfan, ac yn galw’r heddlu. Gwthia Lescaut wn i law Manon, ac mae hi’n tanio’r gwn. Daw Lilaque ifanc i mewn a gweld Manon yn dal gwn a chorff ei dad yn farw wrth ei thraed.
Golygfa Saith
Mae Manon yn cael ei hebrwng i’r ddalfa. Gobeithia Armand gael cip olaf arni ond mae hi’n cael ei chymryd oddi yno cyn iddyn nhw gael cyfle i siarad.